Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eto, fel Mephiboseth, mae yn gloff o'r ddwy droed. Ni ddaethai hwnw byth at Dafydd nes cael ei gario ryw ffordd neu gilydd; am hyny, da y gwnaeth Dafydd ddyfod ato ef. Felly, rheswm sydd yn dymuno marwolaeth yr uniawn, ac yn canfod daioni ac yn ei ganmol, ond byth nid yw yn ei ddilyn, ac nis gwna hyd oni lusgir ef:— Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynu ef. Cyhyd ag y dilynasant y seren y gwnaethant yn dda; pan adawsant y seren, ac y dilynasant eu rheswm eu hunain, y gwnaethant yn ddrwg. Dilyned y dyn dâll ei arweinydd, serch gorfod myned trwy ddrain a mieri, trwy ddyffrynoedd a thros fynyddoedd; ymddirieded i olygon eraill, gan nad all weled ei hun. Yr ydym bawb yn ddeillion wrth natur, ac o dosturi atom y danfonodd Crist y Diddanydd i'n harwain." Cymerer eto ddifyniad o'r un bregeth, yr hon sydd yn llawm o'r cyffelyb berlau: " Trueni yw meddwl leied gwerth a wel rhai yn yr Arglwydd Iesu; ni ddeuant o'r tai nesaf i ymofyn am ei wyneb. Pa mor bell yr A rhai i farchnad pan fyddo angenrheidiau y corph yn pallu? Mae eneidiau llawer wedi hir ddyoddef heb eu diwallu. Mae arnaf chwant dadleu dros eich eneidiau, a llefain am gael tamaid o fara iddynt, o'r fan lleiaf unwaith yn yr wythnos. Pe y caent ond hyny, mi a ddisgwyliwn iddynt gryfhau, ac ymorol am lawer yn ychwaneg. Deuai y doethion ychwaneg o filldiroedd nag y deuwch chwi o gamrau. Gwrthddadl; pe y gallech ei ddangos i ni, byddem foddlawn iawn i ddyfod. Chwi a ellwch gael ei weled ef, ac yn fwy gogoneddus nag y gwelodd y doethion eí. Yr ydym yn dangos Crist i chwi yn ngwyneb yr efengyl, nid i lygaid y corph, ond i'r enaid; nid yn gorwedd yn y preseb, nac yn gweddïo ar y mynydd, nac yn gwaedu yn yr ardd, nac yn marw ar y groes, ond yn eistedd ar ei orsedd yn ogoneddus yn y nef. Pe deuai un i ystafell olygus, a bod ynddi lawer o luniau prydweddol, os bydd lleni neu gorteni (curtains) drostynt, ni all neb weled yr un o honynt; ond pe y tynai un y lleni ymaith, byddai yn hawdd iawn eu canfod. Felly y mae ymddangosiad Crist yn ngwyneb yr efengyl; ond y mae llen rhwng rhai a hwynt; gorchudd ar eu llygaid, fel na welant. O! gweddïwch am rwygo'r llen, a thynu ymaith y gorchudd; yna y gwelwch ardderchawgrwydd yr Arglwydd Iesu yn ei gynulleidfaoedd." Gallasem ychwanegu sylwadau pert o'r fath yma, yn dynodi crebwyll o'r radd uchaf, yn ddiderfyn braidd, ond rhaid i ni ymfoddloni ar un difyniad ychwanegol. Y mae allan o'r bregeth, " Crist oll yn oll." Mater y pregethwr y w dangos cymh wysder yr Arglwydd Iesu, fel eneiniedig y Tad, i fod yn iachawdwr. " Nid gwan ydoedd, eithr galluog i waith y prynedigaeth. Yn Esaiah iii. 7, y dywedir, ' Na osodwch fi yn dywysog; ni byddaf iachäwr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad.' Cymhwysfod tywysogion yn gyfoethog; ni wna begeriaid ond gwancu meddianau eu deiliaid. Ni allasai Crist ddywedyd felly (fel y gŵr yn Esaiah), o herwydd efe a addaswyd a phob gras a dawn angenrheidiol i'r gorchwyl yr appwyntiwyd ef iddo; Salm lxxxix. 19. Yna, gwelwn nad ar wanŵr y rhoed y cymhorth, un ag a lewygai dan ei faich; nage, nage, ond un galluog, ië, hollalluog, i fyned trwy ei orchwyl. Megys y cyfododd Samson haner nos, ac y cariodd byrth Gaza i ben bryn uchel rai milltiroedd o'r dref; felly Iesu, y Cadarn, a gododd o angau, ac a gariodd byrth uffern a marwolaeth, ac a esgynodd i'r nef. O ba herwydd y dywedir, ' Efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy.' Nid ydym yn dyfod at un egwan, fel at yr archoffeiriad gynt; eithr at im cadarn, un etholedig o'r bobl. Wele fawr gysuri bob credadyn gwan, fod ei Arglwydd yn alluog i orphen y gwaith a ddechreuodd. Cysur y gwahanglwyfus oedd, ' Os myni, ti a elli fy nglanhau i.' Enaid, y mae genyt Dduw ag y tâl ymddiried ynddo, y mae mor llawn o ewyllys ag yw efe o allu i'th iachau. Gan ei fod yn hollalluog, gorphwyswn ar, ac ymddiriedwn yn ei allu ef. Rheded dynion fel y mynont, yma ac acw i mofyn cymorth, nid oes neb a ddichon eu cynorthwyo ond efe. Yn mha galedi bynag y byddom, pwyswn arno ef; efe a all gadw Noah mewn arch o goed; yr un ffunud y ceidw efe Moses mewn arch o frwyn. Gwel Esaiah xviii. 2: ' Efe a hebrwng genhadau hyd y môr mewn llestri brwyn.' Efe a wared trwy foddion, heb foddion, yn wrthwyneb i foddion, a goruwch moddion." Anmhosibl darllen y difyniadau uchod heb deimlo ardderchawgrwydd y mater. Ar yr un pryd, rhaid addef fod nerth teimlad, a gwresawgrwydd yspryd y pregethwr, yn ychwanegu yn fawr at eu grym.