Tra mai fel pregethwr y rhagorai Daniel Rowland, y mae yn dra sicr ei fod yn drefniedydd nodedig o fedrus, ac yn arweinydd doeth a dyogel. Gwedi yr ymraniad, efe a fyddai yn llywyddu yn y cymdeithasfaoedd, os yn bresenol. Ychydig a lefarai efe ei hun fel rheol; gwrandawai ar eraill am enyd, gan rodio yn ol ac yn mlaen ar hyd yr ystafell; yna torai y ddadl a fyddai yn cael ei chario yn mlaen i fynu, trwy ddweyd:
"Dyna ddigon wedi ei siarad," ac yna gosodai ei olygiadau eu hun ar y mater gerbron, yn gryno ac yn oleu, a bron yn ddieithriad dilynid ei gyfarwyddid. Fel arweinydd, unai benderfyniad meddwl, a hynawsedd yspryd nodedig. Y mae yn dra sicr ei fod yn anghydweled a golygiadau Peter Williams; nis gallasai lai yn ngwyneb y saflai a gymerasai mewn cysylltiad a daliadau Harris; ond yr oedd yn mhell o gydweled a'r ymosodiadau a wneyd ar yr hen esboniwr. Gwyddai Peter Williams hyn yn dda, a chyfeiria at ei dynerwch yn y farwnad a gyfansoddodd iddo:
"O, mrawd Rowland, ni 'th anghofiaf,
Ti roddaist i mi lawer sen;
Ymhob tywydd, ymhob dirmyg,
Pwy ond ti orchuddiai 'mhen?"
Meddai gydymdeimlad mawr a dynion ieuainc, a llygad crâff i'w hadnabod. Ni theimlai ddim tebyg i eiddigedd pan fyddai pregethwr ieuanc poblogaidd yn codi. Yr oedd Griffiths, Nevern, o ddoniau dysglaer; wedi gwrando arno yn pregethu y tro cyntaf, aeth Rowland ato, a'i lygaid yn tywynu gan lawenydd, gan ddweyd: " Fy mab anwyl! Yr wyt wedi taro ar yr wthien; gwthien euraidd y weinidogaeth; gofala gadw arni, a rhoddi yr holl glod i Dduw." Dywedir ei fod yn petruso ar y dechreu gyda golwg ar ganiatau rhyddid y pwlpud i Roberts, Clynog. Anhawdd gwybod yn bresenol y rheswm am hyny. Ond pan ddaeth Roberts y tro cyntaf i Langeitho, aeth Rowland yn llechwraidd i'r capel, gan gadw ei hun yn nghudd allan o olwg. Boddhawyd ef yn fawr yn noniau dysglaer y seraph tanllyd o'r Gogledd. Ar y diwedd, aeth ato yn llawn sirioldeb, gan ei longyfarch ar yr odfa lewyrchus oedd wedi gael; ac wedi peth ymddiddan, dywedai: "A wnewch chwi dderbyn gair o gyngor oddiwrth henŵr penwyn? " "Gwnaf, gyda y parodrwydd mwyaf," oedd yr ateb. Meddai yntau, "Gwyddoch fod gan y siopwyr dyllau bychain yn eu counters yn y rhai rhoddant yr oll y maent yn dderbyn; beth bynag a gânt, bydded aur, arian, neu brês, gosodant yr oll yn y tyllau hyn. Anwyl frawd, gwnewch chwithau yr un fath; beth bynag a dderbyniwch, rhoddwch ef yn y drysorfa. Peidiwch pocedu cymaint a ffyrling o arian y Meistr." Yr oedd ei allu i adnabod dynion ieuainc, ac i gydymdeimlo a hwy yn eu huchelgais, yn gymhwysder dirfawr iddo at fod yn arweinydd. Er ei holl boblogrwydd a'r parch a delid iddo, cadwodd Duw ef rhag ymchwyddo; yn nghanol yr oll yr oedd ei galon yn wir ostyngedig. Adroddir amryw hanesion fel prawf o hyn. Trafaelai ar ei draed yn bur fynych; a phan wedi ei gyhoeddi i bregethu mewn cymydogaeth, anfonodd gwraig dda, a breswyliai mewn ffermdy o'r enw Bryn-y-brain, ei gwas gyda cheffyl i'w gyfarfod. Rywsut camgymerodd y gwas y ffordd, neu daeth y pregethwr o gyfeiriad nad oeddid yn ei ddisgwyl, a chyrhaeddodd Rowland y He ar ei draed, ac yn flin. Gofidiai y wraig yn dddirfawr, a mynegai ei siomiant drosodd a throsodd. Atebai yntau: " Nel fach, ni feddyliais fy hun yn deilwng i neb ddod i'm cyfarfod, naddo gymaint a chan llath, erioed." Adroddir ddarfod i wraig weddw, o'r enw Mrs. Griffiths, Glanyrafonddu, oblegyd ei serch ato, a'r mawr lles a dderbyniasai trwy ei weinidogaeth, adael cerbyd iddo yn ei hewyllys. Yn hwn y teithiau yntau y rhan olaf o'i oes. Mewn pentref neillduol, He yr arferai bregethu, ni wnai neb ei dderbyn i dy ond hen wreigan dlawd. Pan welodd hon y pregethwr yn dyfod yn ei gerbyd i'r pentref am y tro cyntaf, dechreuodd ymofidio, a theimlo nad oedd ei thŷ na'i gwely gwael hi yn deilwng o'r fath ŵr. Dywedai hynny yn ei glyw. Ond ei ateb ef ydoedd: "Taw sôn, da thi; yr wyf yn gweled dy fod di mewn mwy perygl o gael niwed oddiwrth fy ngherbyd i, nag wyf fi o gael fy niweidio gan dy dŷ a'th wely di." Byddai yn anesgusodol ynom i basio heibio yn ddisylw y llyfrau a briodolir i Daniel Rowland, naill a'i fel Awdwr neu Gyfieithydd. Yn 1739, cyhoeddodd ei bregeth gyntaf, a elwir " Llaeth Ysprydol: o casgliad Eglwyswr." Y mae yn sylfaenedig ar i Petr ii. 2. Yn fuan wedi sefydlu y seiadau profiad, sef yn y flwyddyn 1742, cyhoeddodd, mewn undeb ag eraill, lyfr yn dwyn y teitl a ganlyn: "Sail, Dibenion, a Rheolau y Cymdeithasau, neu y Cyfarfodydd Neillduol, a ddechreuasant ymgynull yn ddiweddar yn Nghymru. At y rhai y