Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwanegwyd rhai hymnau i'w canu yn y cyfarfodydd. Gan wŷr o Eglwys Loegr." Nid oes enw neb ar y wyneb ddâlen, ond ceir enw Howell Harris wrth yr hymn gyntaf, enw Morgan Jones wrth yr ail, eiddo Daniel Rowland wrth y drydedd, ac eiddo Herbert Jenkins wrth y bedwaredd. Tybir mai Rowland oedd a'r llaw bwysicaf yn nghyfansoddiad y llyfr. Y flwyddyn ganlynol, 1743, cyhoeddodd gyfieithad o draethawd Ralph Erskine, ar " Farw i'r Ddeddf, a byw i Dduw, at ba un y chwanegwyd chwech o Hymnau buddiol ar Amryw ystyriaethau. O waith y Parchedig Daniel Rowland." Cawn ef y flwyddyn nesaf, 1744, yn cyhoeddi " Hymnau Duwiol, i'w canu mewn Cymdeithasau crefyddol. A gyfansoddwyd gan mwyaf gan y Parchedig Daniel Rowland, .Gweinidog o Eglwys Loegr." Y mae y wyneb ddalen yn gyfeiliornus; allan o 72 tudalen nid oes ond 25 yn perthyn iddo ef. Y mae yn ddyddorol sylwi mai yr un flwyddyn y cyhoeddodd Williams, Pantycelyn, y rhan gyntaf o'i "Aleluwia." Yr achlysur nesaf iddo ddyfod allan trwy y wasg, oedd er gwneyd yn hysbys ei olygiadau ar y pwnc mewn dadl rhyngddo ef a Harris. Gelwir y llyfr:— "Ymddiddan rhwng Methodist Uniawn-gred ac un Camsyniol. Yr ail argrafíìad, 1750." Ni wyddis pa bryd y bu yr argraffiad cyntaf. Dygwyd allan drydydd argraffiad o Gaerfyrddin, 1792. Yn 1759, cyfieithodd "Aceldama, neu Faes y Gwaed." Traethawd yw hwn yn dangos echryslonrwydd rhyfel. Hysbysir ei fod ar werth gan Peter Williams. Pregeth a gyhoeddodd nesaf, sef:— "Llais y Durtur. Gwahoddiad grasol Crist ar bechaduriaid. Neu bregeth a bregethwyd yn Llanddewi, Tach. i, 1761. Ar Datguddiad iii. 20. ' Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws, ac yn curo,' &c. Gan y Parchedig Mr. Daniel Rowland,Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho, 1762." Yn ol Mr. Morris Davies, cyhoeddwr a golygydd yr argraffiadau cyntaf o bregethau Rowland, oedd un Thomas Davies, gerllaw Hwlffordd, Sir Benfro. Tybia fod Mr. Davies yn un o'r cynghorwyr a lafurient gyda'r Methodistiaid, a'i fod, fel cyhoeddwr llyfrau, yn ŵr ymdrechgar, bywiog,a gofalus. Ymddengys nad oedd yr awdwr yn derbyn dim elw oddiwrth werthiant ei bregethau; rhoddasai y copïau o honynt i'r cyhoeddwr, ac y mae yntau ar ddiwedd y rhestr o dderbynwyr yn diolch yn gyhoeddus iddo am danynt. Dywed fod y brys i'w dwyn allan gymaint, fel na chafodd yr awdwr, yn nghanol ei lafurwaith, amser i'w darllen wedi eu hysgrifenu, cyn rhoddi'r copíau o'i law i'w hargraffu. Blwyddyn nodedig yn ei hanes oedd y nesaf, 1763; dyma y pryd y trowyd ef allan o'r Eglwys Sefydledig; a chawn ef yn cyhoeddi " Pymtheg Araeth, ar Amryw Destunau." O flaen y rhai hyn y mae rhagymadrodd gan Peter Williams. Tybir mai efe a gyfieithodd " Camni yn y Coelbren," o waith Thomas Boston, a ddaeth allan yn 1769. Yn y flwyddyn 1772, cyhoeddwyd tair pregeth o'i eiddo; ac o fewn corff yr un flwyddyn, bum' pregeth arall, at ba rai y chwanegwyd amryw hymnau. Yr ydym yn ei gael yn 1774, yn cyhoeddi cyfieithad o " Ryfel Ysprydol " John Bunyan, gyda rhagymadrodd byr, eithr nodedig o ddyddorol, ganddo ef ei hun. Yn y flwyddyn hon hefyd, cyhoeddodd Thomas Davies " Wyth Bregeth " Saesneg o'i waith, a dywedir ar y wyneb ddâlen eu bod wedi cael eu pregethu ar bynciau ymarferol yn yr " Eglwys Newydd, yn Llangeitho." Wrth yr " Eglwys Newydd " y golygir y capel a adeiladesid i Rowland wedi iddo gael ei droi allan. Cyfieithwyd y rhai hyn gan y Parch. John Davies, Rheithor Sharnecote, swydd Wilts. Cafodd tair pregeth Saesneg arall, o gyfieithad yr un gŵr, eu dwyn allan y flwyddyn ganlynol. Yn 1776, cyhoeddwyd "Ychydig Hymnau yn ychwaneg, gan y Parchedig D. Rowland." Y cyfansoddiad olaf o'i eiddo a ddaeth allan trwy y wasg oedd:— "Llwyddiant wrth Orsedd Gras:— Pregeth ar Judas, 20, a bregethwyd yn Nghapel Llangeitho, 1782." Pan feddylir amledd ei deithiau, a maint ei lafur gyda gweinidogaeth yr efengyl, y mae yn syn iddo allu ysgrifenu cymaint. Ar y cyfan, y mae ei Gymraeg yn bur a chref, a'i holl ddullwedd yn eglur a chryno.

Er ardderchoced pregethwr oedd Daniel Rowland, ac er godidoced y gwaith a gyflawnwyd trwyddo, ni chafodd ddianc, hyd yn nod gwedi ei farw, heb gael ei gyhuddo o feiau a cholliadau. Dywed Dr. Rees, yn ei History of Nonconformity in Wales,[1] ei fod yn mhell o fod yn ddifai fel pregethwr, ac awgryma, ar dystiolaeth gweinidog Annibynol cymharol ddinôd, ei fod yn wan o ran mater, ac yn crwydro yn fynych oddiwrth ei destun; ond fod rhyw gymaint o effeithiolrwydd yn perthyn iddo. Byddai yn anhawdd cael gwell enghraifft

  1. Tudal 368