Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddangos fel rhai yn ddifrifol ynghylch eu cyflwr tragywyddol. Addoliad teuluaidd a osodwyd i fynu mewn llawer o dai; ymgasglai tyrfaoedd mwy i'r eglwysydd, ac hefyd at Fwrdd yr Arglwydd." Yr oedd y lefain yn y blawd, a'r ymweithiad yn dechreu cymeryd lle.

Nid ymgynghorodd Harris a chig a gwaed er gwybod a oedd yr hyn a wnelai yn rheolaidd; nid oedd yn tybio ei fod yn pregethu, ac ni amcanai at fod yn bregethwr; ni feddai unrhyw gynllun ychwaith, ond gwelai ei gydwladwyr yn cyflymu i ddystryw, mewn anwybodaeth o'u perygl, a theimlai mai gwae ef oni rybuddiai hwynt. Efe yn ddiau yw tad y weinidogaeth leygol, yr hon a fu mor fendithiol i Gymru; ond ni amcanai ef ddwyn unrhyw newydd-beth i mewn. Awydd achub eneidiau anfarwol a losgai fel tân yn ei yspryd. "Erbyn hyn," medd, "yr oedd yn bryd i'r gelyn ymosod arnaf," ac amlwg yw iddo wneyd hyny mewn gwahanol ddulliau. Dechreuodd y werinos, yn cael eu cyffroi yn ddiau gan rai mewn sefyllfa uwch, ei wawdio ai erlid; bygythiai yr ynadon ef a'r bobl a'i derbynient i'w tai a charchar neu ddirwy; a chynhyrfai preladiaid yr Eglwys Wladol o herwydd ei fod yn ymyraeth a'r hyn a berthynai, fel y tybient, iddynt hwy yn unig. Chwefror, 1736, derbyniodd lythyr ceryddol oddiwrth Mr. Price Davies, ficer Talgarth. Yn y llythyr hwn dywed Mr. Davies ei bod yn llawn bryd ei hysbysu o'r pechod a'r gosb oedd yn dynu arno ei hun; ond iddo ddarllen ei Feibl, y gwelai nad oedd y gwaith a pha un yr ymgymerasai yn perthyn i leygwyr o gwbl, yn mhellach na darllen a gweddïo yn eu teuluoedd; fod ganddo un camwedd trymach i'w osod yn ei erbyn, sef ddarfod iddo derfynu un anerchiad gyda gweddi faith, allan o'i frest; a dymuna arno ystyried pa mor gryf y sawra ei ymddygiad o ffanaticiaeth a rhagrith. Diwedda Mr. Davies trwy fygwth. Bygythia ysgrifenu at ei frawd Joseph, a rhoddi gwybod i'r esgob, yr hyn a'i rhwystrai i gael ei urddo, oni wnai ymatal; a gobeithia na wna roddi achos cyfiawn iddo ef ac eraill i dybio fod ei synwyrau wedi eu amharu. Nid gelyniaeth at grefydd efengylaidd oedd yn cyffroi y Parch. Price Davies, na difaterwch hollol oblegyd cyflwr ysprydol y wlad; y mae yn amlwg ei fod yn meddu cryn lawer o ddifrifwch; ond ysgrifenai yn ol y goleuni oedd ganddo. Iddo ef a'i gyffelyb rheoleidd-dra oedd y pwnc mawr; purion peth oedd achub eneidiau, ond i hyny gael ei wneyd yn rheolaidd, a thrwy gyfrwng gweinidog wedi derbyn urddau esgobol; ond ystyriai fod gwaith lleygwr yn ymyraeth yn drosedd anfaddeuol. Nid oedd yn canfod fod achubiaeth y byd yn bwysicach na swyddogaeth. Efallai yr ofnai hefyd os cai personau di-urddau fyned o gwmpas i gynghori y darfyddai am yr offeiriadaeth.

Ni effeithiodd llythyr y ficer ar Harris fel ag i beri iddo newid ei gyfeiriad. Dychrynwyd rhai o'r personau a arferent ddyfod i wrando arno gan wrthwynebiad y personiaid, ac erledigaeth y werin bobl; ond cyfarfyddent yn ddirgel, pan na feiddient wneyd yn gyhoeddus. Yn raddol chwythodd yr ystorm heibio, a'r gwanwyn dilynol ail- gychwynodd ei ymweliadau o dŷ i dŷ. Erbyn hyn daethai i gydnabyddiaeth ag amryw o'r Ymneillduwyr; yr oedd eglwys Ymneillduol yn Nhredwstan, yr ochr arall i'r cwm iddo, yn yr hon, er ei bod yn fychan ac yn eiddil, yr oedd rhyw gymaint o wir grefydd yn aros, fel llin yn mygu; a chaffai gan y rhai hyn dderbyniad calonog i'w tai. Er mwyn bywioliaeth, sefydla ysgol ddyddiol yn Nhrefecca, yr hon yn fuan a symudwyd i eglwys Talgarth. Er ddarfod iddo fod ar ymweliad a'r Hybarch Griffith Jones, yn Llanddowror, yn mynegu ei fwriad ac yn gofyn cyfarwyddid, nid yw yn ymddangos fod ei ysgol yn un o rai Griffith Jones; yn hytrach, anturiaeth bersonol ydoedd. Ond yr oedd mewn gohebiaeth gyson ag offeiriad duwiol Llanddowror; mynegai ei lwyddiant iddo gydag asbri; a derbyniai oddiwrtho roddion o lyfrau a phob cefnogaeth. Bu yr ysgol yn gymorth nid bychan i'r Diwygiad." Llawer o ddynion ieuainc," meddai, "a gofleidias y cyfleustra, ac a ddaethant ataf i gael eu hyfforddi yn mhellach yn ffordd iachawdwriaeth."

Cafodd gyfleustra arall i rybuddio ei gyd-wladwyr gyda golwg ar fater eu henaid. Elai dyn o'r gymydogaeth o gwmpas i ddysgu pobl ieuainc i ganu Salmau." Nid oedd gwrthwynebiad i hyny," meddai Harris, "mwy na phe y buasent yn ymgynull ynghyd i ddawnsio, neu i ymladd ceiliogod." Felly yr ysgrifena, gyda phob difrifwch; nid yw fel yn ymwybodol y fath ddatguddiad a rydd ei eiriau o gyflwr y wlad. Wedi i'r athraw cerddorol derfynu ei addysgiant mewn canu, cyfodai y Diwygiwr i roddi iddynt air o gyngor, a thrwy y moddion yma dygwyd llawer dan