Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

argyhoeddiad. Arweiniodd hyni sefydliad societies. Meddai, "Myfi a ddechreuais sefydlu y societies hyn yn ol y drefn y mae Dr. Woodward yn rhoddi hanes am dani, mewn traethawd a ysgrifenodd efe ar y pen hwnw. Nid oedd hyd yn hyn ddim societies o'r fath yn Nghymru na Lloegr. Yr oedd y Methodistiaid Saesneg heb son am danynt eto, er fod yr Arglwydd y pryd hyny, fel y cefais wedin, yn gweithio ar rai o honynt yn Rhydychain a manau eraill." Perthyn i'r Eglwys Sefydledig yr oedd y Dr. Woodward y cyfeirir ato; sefydlasai ei seiadau ar gynllun, ac yn unol a rheolau a dynasid allan gan Archesgob Caergaint; yr amcan oedd casglu ynghyd y rhai a geisient arwain bywyd sanctaidd, ac a foddlonent i fyw yn unol a rheolau manwl, yn un gymdeithas, i'r hon y byddent oll yn gyfrifol. Mewn rhai pethau nid oeddent yn annhebyg i'r guilds presenol yn Eglwys Loegr. Yn Llundain yn unig y cawsent eu sefydlu gan Dr. Woodward, ac er iddynt unwaith fod yn bur gryfion, suddasent erbyn hyn i gyflwr isel a difywyd. Yn wir, ychydig o gyffelybrwydd oedd rhwng y seiadau a sefydlwyd gan Howell Harris i eiddo Dr. Woodward. Amcan seiadau Woodward oedd disgyblaeth; yspryd deddfol a lywodraethai ynddynt; ufudd-dod i reolau ac ordinhadau allanol yn benaf a ofynent. Amcan seiadau Harris oedd cyd-hyfforddiant ar y ffordd i'r nefoedd; cyfleusterau oeddynt i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi i adrodd eu profiadau, ac i arllwys eu calonau y naill i'r llall, fel y gallent gysuro a chynorthwyo eu gilydd. Yr oeddynt yn drwyadl efengylaidd o ran tôn, ac yn talu sylw yn benaf i'r ysprydol a'r mewnol. O ran ei hanfod yr oedd cynllun Harris yn wreiddiol iddo ef ei hun. Diau ei fod yn gywir wrth ddweyd nad oedd seiadau o'r fath ar y pryd yn Nghymru na Lloegr. Yn mhen tair blynedd gwedi hyn y sefydlodd John Wesley y gyntaf o'i seiadau ef. Cawn Parch. James Hervey, un o Fethodistiaid Rhydychain, yn y flwyddyn 1739, yn ffurfio cymdeithas grefyddol gyffelyb yn Bideford, "nid," meddai, "mewn gwrthwynebiad i'r Eglwys Sefydledig, ond mewn cydffurfiad. dyledus a hi." Dywed fod y manteision canlynol i'w cael mewn cym- deithasau o'r fath. "(1) Yr ydym ni yn anwybodus, ac yn fynych yn methu canfod y pethau sydd a rhagoriaeth ynddynt; eithr gwel Duw yn dda ddatguddio i rai yr hyn a guddir oddiwrth eraill; felly, yn amlder cynghorwyr y mae doethineb yn gystal a dyogelwch. (2) Yr ydym yn tueddu i garu ein hunain, ac felly yn analluog i ganfod ein colliadau; o ganlyniad, yr ydym yn anhebyg o ddiwygio. Ond gwna ein cyfeillion, mewn yspryd llariaidd a diduedd, ddangos i ni ein bai. (3) Yr ydym yn wan ac anmhenderfynol; rhwystrir ni yn hawdd pan yn ymgais am yr hyn sydd ardderchog; ond y mae cymdeithas cyfeillion, yn ymdrechu am yr un rhagoriaethau, yn ein llenwi a gwroldeb a sefydlogrwydd. (4) Yr ydym yn ddiog ac yn glauar yn nghyflawniad ein dyledswyddau crefyddol; eithr gwna cydgymundeb sanctaidd gyffroi a chadw yn fyw zêl dduwiol. Mor fynych yr aethum i gyfeillach fy mrodyr yn oer a diyspryd; ond dychwelwn y ddyn newydd, yn llawn awyddfryd a zêl"[1] Pa fodd bynag, methodd Hervey a chadw y gymdeithas yn Bideford ar y llinellau hyn. Nid oedd y rhai a ymgynullent yn teimlo y medrent gynal ymddiddan crefyddol yn mlaen mewn modd a gynyrchai adeiladaeth; nid oeddynt yn ddigon ysprydol ychwaith i gwestiyno y naill y llall gyda golwg ar fater eu heneidiau; felly, yn lle adrodd profiad, darllenid rhyw lyfr defosiynol da. Ond yr hyn y methodd Mr. Hervey ei sefydlu a ddaeth yn Nghymru yn gyfarfod o'r pwysigrwydd mwyaf, ac yn rhan o fywyd crefyddol y genedl. Yn y seiadau, a sefydlwyd gan Howell Harris a Daniel Rowland, mewn anwybodaeth am waith eu gilydd, yr addysgid yr anwybodus yn fanylach yn egwyddorion yr efengyl, y dangosid i'r anghyfarwydd y modd y dylai droedio er gochel maglau y gelyn, y rhybuddid y rhai a dueddent i oeri mewn zêl, y dyddenid y rhai oeddynt yn cael eu poeni gan ofnau, ac y caffai saint Duw gymdeithas a'u gilydd yn Nghrist Iesu. Ni wnaeth dim fwy er dwyshau y teimlad crefyddol yn y wlad na'r seiat brofiad.

Hyd yn hyn, Talgarth a'r cymydogaethau o gwmpas oedd cylch gweinidogaeth Howell Harris. Ond yn haf 1737, anfonodd boneddwr o Sir Faesyfed am dano i lefaru yn ei dy. Cwbl gredodd yntau fod yr alwad o'r nefoedd, ac heb ymgynghori a chig a gwaed yno yr aeth. Daeth nifer o bobl barchus ynghyd i wrando, wedi eu cyffroi yn benaf gan

gywreinrwydd. Ond cawsant y fath

  1. Tyerman's Oxford Methodists.