foddlonrwydd yn yr hyn a draethai, ac yn yr atebion i'r gwahanol gwestiynau a ofynent iddo, fel y symudwyd eu rhagfarn yn hollol, a chafodd amryw eu hargyhoeddi o druenusrwydd eu cyflwr. Darfu i fendith Duw ar yr odfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo yn mhell o cartref, ei argyhoeddi y bwriedid iddo eangu cylch ei lafur. Hyn a wnaeth yn ddiymaros. Ai i ffeiriau, a gwyliau, ac i bob man o fewn ei gyrhaedd, lle yr ymgynullai y lliaws, i rybuddio dynion o'u perygl. Ond yr oedd yr ysgol ar ei ffordd, fel na fedrai fyned yn mhell. Eithr symudwyd y rhwystr hwn trwy frâd y diafol ei hun; oblegyd tua diwedd y flwyddyn cafodd ei droi allan o'r ysgol oblegyd ei afreolaeth. Bellach, yr oedd at ei ryddid i fyned pa le bynag y gelwid am dano, ac ni phetrusai yntau dderbyn pob gwahoddiad. Pregethai dair neu bedair gwaith y dydd, weithiau bump neu chwech, a hyny i gynulleidfaoedd anferth. Cyffrowyd Siroedd Brycheiniog a Measyfed trwy ei weinidogaeth o gwr i gwr. Deffrodd hyn elyniaeth danllyd yn ei erbyn. Meddai: "Weithiau yr oeddwn yn cael fy llwytho a phob math o gamachwyniadau; y swyddogion gwladol yn bygwth fy nghospi, yr offeiriaid yn yr eglwysydd yn pregethu yn fy erbyn, gan fy nodi allan fel y Gaubrophwyd, a'r Twyllwr, a'r mob yn mhob lle, yn amcanu fy niweidio." Ond nid oedd gŵr Duw yn gofalu am y pethau hyn; llenwid ei enaid ynddo gan ddyddanwch pur.
Anhawdd i ni yn yr oes hon ffurfio barn am wresogrwydd a nerth gweinidogaeth Howell Harris. Nid oedd ei bregethau parthed arddull cyfansoddiad, ynghyd a dyfnder ac arucheledd meddylddrychau, i'w cymharu ag eiddo Griffith Jones, ac yn arbenig eiddo Daniel Rowland. Ni wnaeth ymgais am rai blynyddoedd i draddodi pregethau ar destynau; rhoddai anerchiadau difyfyr, heb unrhyw drefn neillduol, gan daranu yn erbyn pechod. Meddai: "Mewn perthynas i swm fy ymadrodd, yr ydoedd oll yn cael ei roddi i mi mewn modd anarferol, heb y rhagfyfyriad lleiaf; nid cynyrch fy nghof ydoedd ychwaith, canys ni fu genyf gof da erioed; nerthol gynhyrfiad a deimlwn yn fy enaid ydoedd, fel nas gallwn fod yn llonydd, gan yr angenrhaid a osodwyd arnaf i ddeffroi eneidiau pechaduriaid." Cawsai ei gyfaddasu yn arbenig gan natur, a chan ddyfnder ei argyhoeddiad, ar gyfer rhybuddio yr annuwiol. Yr oedd ei olwg yn fawreddog, ac yn tynu sylw ar unwaith; yr oedd ei lais yn gryf ac yn glir; fflamiai ei lygaid; eisteddai difrifwch o dragywyddoldeb ar ei wynebpryd; ac yr oedd nerth anorchfygol yn ei draddodiad. Elai allan i'r rhedegfeydd, ac i ffeiriau, gwylmabsantau, a chyfarfodydd llygredig y wlad, gan rybuddio y bobl i ffoi i'r cysgod. 'Disgynai ei ymadroddion fel pelenau o dân ar y tyrfaoedd anystyriol. Wedi cael cynulleidfa oi flaen, y mae y pregethwr yn sefyll i fynu, a chyda ei fod yn agor ei enau, dyma ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau yn disgyn ar ben y gwrandawyr; y maent yn cael eu hysgwyd uwchben uffern, nes y mae rhai yn gwelwi a rhai yn gw aeddu. Nid anaml gwelid cynulleidfa o ddwy fil yn aros am ddwy awr yn y gwlaw i wrando arno yn llefaru. Byddai rhai yn cael eu hargyhoeddi, ac eraill yn ceisio dystewi llais cydwybod trwy erlid y pregethwr. Ofer ceisio cyfrif ar dir rheswm cnawdol am y dylanwad a fyddai yn cydfyned a'i eiriau; yr oedd ganddo genadwri oddiwrth Dduw i ddynion, a thraddodai hi gydag angerddolrwydd yspryd a gariai y cwbl o'i flaen. Cymwys desgrifiad Williams, Pantycelyn, o hono :—
"Yn y cyfnes tywyll pygddu,
Fe ddaeth dyn fel mewn twym ias,
Yn llawn gwreichion goleu, tanllyd,
O Drefecca Fach i ma's.
Yn y daran 'r oedd e'n aros,
Yn y cwmwl'r oedd ei le,
(Yspryd briw, drylliedig, gwresog,
Sy'n cael cwnsel Brenin Ne);
Ac yn saethu oddiyno allan
Fellt ofnadwy iawn eu rhyw,
At y dorf aneirif, dywyll,
Yn eu pechod oedd yn byw.
Gosfu gwrando ei eiriau geirwon,
Cadarn yw awdurdod nen;
Os gwrthw'nebu wna pechadur,
Trymach cwymp hi ar ei ben;
Dilyn ergyd a wnaeth ergyd,
Nes gwneyd torf yn foddlon dod
At yr Iesu mewn cadwynau,
Fyth i ddilyn ôl ei droed.
Gwerin fawr o blant pleserau
Y pryd hwnw gafodd flas,
Ag nad â tra fyddo anadl
'O'u hysprydoedd ddim i maes.
"Roedd ei eiriau dwys, sylweddol,
Heb eu studio 'mlaen llaw'r un,
Wedi ei ffitio gan yr Yspryd
I gyflyrau pob rhyw ddyn."
Digwyddodd dau amgylchiad ynglyn a Howell Harris, yn haf 1737, o bwysigrwydd mawr iddo ef ei hun ac i'r diwygiad.