Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XXI.
CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGWAHANOL RANAU GWYNEDD.

CYCHWYNIAD METHODISTIAETH YN NGWAHANOL RANAU GWYNEDD

Taith gyntaf Howell Harris i Sir Drefaldwyn—Llythyr pigog offeiriad Llandinam—Trefaldwyn yn cael yr un breintiau a'r Deheudir—Erlid yn y sir —Rhwystro John Elias i bregethu yn Llanidloes—Y seiat Fethodistaidd gyntaf yn Meirionydd—Lowri Williams yn ymsefydlu yn Mhandy—y—ddwyryd, ac yn dwyn yr efengyl i'r wlad—Tystiolaeth Lowri Williams, Benar Isaf, am yr amseroedd—Erlid enbyd yn Nolgellau—Y Methodistiaid yn eni yn Sessiwn y Bala—Dechreuad Methodistiaeth yn Lleyn—David Jenkins yn Lleyn Seiat Brynengan—Erlid y Methodistiaid yn Lleyn—Pressio Morgan Griffith—Cychwyniad Methodistiaeth yn Arfon—William Harry yn Llanberis —Yr achos yn cychwyn yn Siroedd Dinbych a Fflint—Pregethu yn Adwy'r Clawdd—Syr W. W. Wynne yn erlid—Methiant yr erlidwyr yn Nhrefriw—Capel Tanyfron—Edward Parry—Beddargraff Hugh Hughes, Coed—y—brain—Methodistiaeth yn gafaelu yn araf yn Môn—Richard William Dafydd yn cael ei amddiffyn gan ddau foneddwr—Richard Thomas, cynghorwr Methodistaidd cyntaf Mon.—Erlid yn Môn, a'r amaethwyr yn cael eu troi o'u tyddynnod oblegyd eu crefydd—Eto yr achos yn llwyddo.

MOR bell ag y gellir casglu, y bregeth gyntaf a draddodwyd gan neb o'r Methodistiaid yn Ngogledd Cymru, ydoedd gan Howell Harris, Chwefror 8, 1740, mewn lle o'r enw Lodge, yn mhlwyf Llandinam. Prin y geill amheuaeth fodoli parthed y dyddiad; profa dydd-lyfr Howell Harris, yn nghyd a'r llythyrau a ysgrifenwyd ganddo pan ar ei daith, y rhai sydd eto ar gael, mai yn 1740 y cymerodd y daith hon le, ac nid yn 1739, fel y dywedir yn Methodistiaeth Cymru. Ymgymerodd Howell Harris a'r daith yn benaf ar gymhelliad y Parch. Lewis Rees, yr hwn ar y pryd oedd yn weinidog gyda'r Ymneillduwyr yn Llanbrynmair. Wrth wynebu ar y Gogledd am y tro cyntaf, gwyddai y Diwygiwr ei fod yn mentro i ganol peryglon. Yr oedd boneddwyr Sir Drefaldwyn yn elynol i'r efengyl, ac wedi ymdynghedu i garcharu y Methodist cyntaf a osodai ei droed ar derfynau eu gwlad. Eithr nid oedd yr Efengylydd o Drefecca yn un i'w atal á bygythion; yn hytrach, teimlai bleser pur mewn wynebu peryglon dros Grist. Derbyniasai y flwyddyn flaenorol hefyd, yn y rhagolwg ar ei ymweliad â Threfaldwyn, lythyr trahaus oddiwrth offeiriad Llandinam, un John Tilsbury, yn ei rybuddio i gadw i ffwrdd, ac yn cyffelybu ei ymddygiad pan yn pregethu i'r bobl heb urddau esgobol i eiddo Nadab ac Abihu yn defnyddio tân dyeithr wrth aberthu. Gellir casglu oddiwrth y llythyr fod nifer o gymydogaeth Llandinam, ac efallai o gwmpas Llanidloes, wedi croesi y mynyddoedd i wrando ar Harris pan y pregethai yn ngwahanol ranau Maesyfed, a'u bod wedi cael eu hargyhoeddi trwyddo. Meddai yr offeiriad: "Buaswn yn eich gadael am byth i fwynhau eich hoff opiniwn am danoch eich hunan, oni bai fod y cyfrifoldeb sydd arnaf am fudd tragywyddol eneidiau fy mhlwyfolion yn fy ngorfodi i ddymuno arnoch, mewn modd heddychol, i beidio swnio eich udgorn mewn dull mor anwarantedig, a chroes i ddeddfau Duw a dynion, yn fy mhlwyf i o hyn allan. Yr wyf yn eich sicrhau fod eich dull llym o gynghori, ac o dywallt allan phiolau digofaint Duw ar y gwrandawyr anwybodus yn eich anerchiadau difyfyr, nid yn unig wedi llithio amryw yn fy mhlwyf i a'r plwyfydd cymydogaethol i fyw mewn sism, ac i orphen eu dyddiau dan y cyfryw euogrwydd, fel y mae lle i ofni; ond yn mhellach, yr hyn nas gallaf ei grybwyll heb arswyd, yr ydych wedi gadael amryw mewn ystad o anobaith, neu gydag ychydig ddisgwyliad am drugaredd; ac os byddant farw yn y cyflwr hwn, i ba raddau y byddwch chwi yn gyfrifol am eu