Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dinystr tragywyddol, yr wyf yn gadael Duw i farnu."

Diau fod llythyr John Tilsbury yn nodweddiadol o ansawdd meddwl personiaid yr Eglwys Sefydledig yn Ngogledd Cymru, hyd yn nod y dosbarth goreu a mwyaf tangnefeddus o honynt. Arswydent rhag i leygwr ymgymeryd a'r gwaith o gynghori dynion gyda golwg ar bethau crefydd, ac edrychent ar argyhoeddiad dwfn fel gwallgofrwydd, ac yn arwain i ddinystr. Awgryma y difyniad uchod amryw bethau o ddyddordeb dwfn. (1) Naill ai fod Howell Harris yn flaenorol, yn ystod rhai o'i ymweliadau â Sir Faesyfed, wedi croesi y llinell i Drefaldwyn, ac wedi pregethu o fewn terfynau plwyf Llandinam; neu ynte, fod nifer pur fawr o bobl Trefaldwyn, oeddynt yn preswylio yn gyfagos i'r ffin, wedi myned i Faesyfed i wrando arno. Braidd nad y cyntaf yw y mwyaf tebygol oddiwrth rediad y llythyr. (2) Fod gweinidogaeth Howell Harris wedi profi yn effeithiol er argyhoeddi amryw, a bod argyhoeddiad rhai mor ddwfn, fel yr oeddynt wedi cael eu gwasgu i ymylon anobaith. (3) Naill ai fod y rhai a brofasent nerth yr efengyl wedi dechreu cydymgynull ar eu pen eu hunain mewn seiadau, a chyfarfodydd gweddi; neu, o leiaf, eu bod wedi troi eu cefnau yn llwyr ar yr Eglwys.

Ond fel y nodwyd, yn Chwefror, 1740, y gwnaeth Howell Harris ei daith gyntaf i'r Gogledd. Odfa ogoneddus a gafodd yn Llandinam; yr oedd yn waeddi mawr yno; ymddyrchafai ocheneidiau i'r nefoedd, a llifai y dagrau dros ganoedd o wynebau. Dywed ei fod fel pe byddai yn cael ei gario allan o hono ei hun. Nid Nid oes genym restr gyflawn o'r lleoedd â pha rai yr ymwelodd, ond y mae yn debyg iddo bregethu yn Llanidloes, Trefeglwys, Llanbrynmair, Cemmes, Machynlleth, ac efallai rai lleoedd eraill. Cafodd rai odfaeon anarferol, ac achubwyd amryw a fuont gwedi hyn yn flaenllaw gyda chrefydd. Yn ol pob tebyg, dyma y pryd yr argyhoeddwyd yr hynod Lewis Evan, Llanllugan. Cadwodd boneddwyr Sir Drefaldwyn eu bygythiad gyda golwg ar erlid y Methodistiaid. Yn Cemmes, cymerwyd Howell Harris yn garcharor drwy awdurdod amryw o ustusiaid, y penaf o ba rai ydoedd un Mr. Wynne, a thrwy roddi mechniafon i ymddangos yn mrawdlys Trefaldwyn, y cafodd ei waredu rhag myned i garchar. Yn Machynlleth, wrth ddychwelyd o'r

Bala, ar yr un daith, bu bron darfod am ei hoedl, o herwydd llid y werinos, yn cael eu cyffroi gan glerigwyr yr Eglwys Sefydledig. Y mae yn bur debyg iddo sefydlu amryw seiadau yn ystod y daith hon, ond pa nifer, a pheth oedd rhif yr aelodau, nis gwyddom. Y mae yn sicr i Howell Harris hefyd ymweled âg amryw leoedd yn Sir Drefaldwyn ar ei ail daith i'r Bala yn y flwyddyn 1741; nis gallai fyned i Sir Feirionydd heb groesi rhanau o Drefaldwyn.

Digon tebyg yr ymwelai Daniel Rowland weithiau â rhanau o Drefaldwyn. oedd yr adran fwyaf ddeheuol o'r sir yn rhyw bell iawn o Langeitho, ac yr oedd yn dra chyfleus iddo pan y teithiai i ranau eraill o'r Gogledd. Gellir casglu hefyd y deuai Williams, Pantycelyn, i'r sir yn awr ac yn y man, yn arbenig pan oedd yn guwrad yn Llanwrtyd. Ond wedi y cwbl, i Howell Harris y perthyn yr anrhydedd i fod y prif offeryn i efengyleiddio y sir. Gan y ffiniai â Siroedd Maesyfed a Brycheiniog, meusydd cyntaf gweinidogaeth Harris, ac â pha rai yr ymwelai amlaf trwy holl ystod ei gysylltiad a'r Methodistiaid, yr oedd Trefaldwyn yn cael rhan arbenig o'i lafur. Anaml y byddai mis yn y flwyddyn yn pasio heb ei fod ar daith trwy ranau o honi. Yn ol ei ddaearyddiaeth ef, nid oedd Maldwyn yn perthyn i'r Gogledd. Pan y trefna weithiau i fyned ar daith i'r Gogledd, ac yr achwyna dro arall fod y Gogledd i raddau mawr yn nghau rhag yr efengyl, nid yw yn cynwys Sir Drefaldwyn. Iddo ef, nid oedd y Gogledd yn dechreu nes croesi dros y terfynau i Sir Feirionydd. Felly, cafodd Trefaldwyn yr un manteision crefyddol, yn nechreuad Methodistiaeth, a'r Deheudir, ac yr oedd ynddi nifer lliosog o seiadau llewyrchus cyn fod seiat wedi ei sefydlu, o leiaf o ddim lliosogrwydd, yn unrhyw ran arall o Wynedd. Cynorthwyid Harris yn ei lafur yn Maldwyn gan amryw gynghorwyr, yr hynotaf o ba rai yn ddiau oeddynt Richard Tibbot, a Lewis Evan, Llanllugan. Y mae genym enwau amryw gynghorwyr eraill, megys Evan Jenkins, Llanidloes, crydd wrth ei alwedigaeth; Evan Morgan, Glyngywydd; Reynallt Cleaton; John Thomas, yr hwn oedd ysgolfeistr; a Benjamin Cadman. Bu cryn helynt gyda y diweddaf, gan y methai benderfynu pa un ai gyda yr Ymneillduwyr ynte y Methodistiaid y gwnai fwrw ei goelbren; bu trafodaeth ar ei achos mewn