Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Y TADAU METHODISTAIDD. 132 allan fel arweinydd i'r Methodistiaid a ymgynullent yn Aberddawen. Yma, bu yn nodedig o lwyddianus. Meddai ei fywgraffydd: Dygodd llais y durtur amryw ddynion at ei sain, a da oedd ganddynt gael lle yn mhlith ei ddeadell fechan, yr hon a gynyddodd hyd ei ddiw- edd." Amser deheulaw Duw oedd hwn i Fethodistiaid Bro Morganwg. Eithr, ysywaeth, yr oedd seren ddysglaer Christ- opher Basset yn tynu tua'i machludiad. Gwanaidd ei gyfansoddiad ydoedd o'r cychwyn; a rywbryd yn haf 1793, aeth i Crai, yn Mrycheiniog, i bregethu ar Sul hynod wresog. Yr oedd y capel bychan wedi ei orlanw, a'r lle yn enbyd o boeth. Teimlodd y pregethwr ei nerth yn darfod ar ganol y bregeth, a rhyw boen enbyd o gwmpas ei ysgyfaint, fel y bu raid iddo roddi heibio. Daeth yn well wedi yr odfa, eithr bu yn esgeulus o hono ei hun, ac yntau wedi chwysu yn ddirfawr. Mewn canlyniad, cafodd anwyd, ac arweiniodd hyn i'r darfodedigaeth. Heb fod yn hir, torodd gwythïen o'i fewn, rhedodd cryn lawer o'i waed, a dechreuodd besychu yn drwm. Cynghorodd y meddyg ef i fyned i'r ffynhonau brwd ger Bryste. Am ych- ydig, teimlai ei fod yn cryfhau yno; eithr nid oedd hyn ond twyll yr afiechyd. Yr oedd Jones, Llangan, yn ei garu fel y carai Jonathan Dafydd, ac aeth ato i Bath am fis; ac y mae yr hanes a rydd am eu cymdeithas yn nodedig o dyner. "Llon- odd fy yspryd," meddai, "wrth ei weled ryw fesur yn well. Daeth allan i rodio gyda mi tuag at y ffynhonau. Wrth fyned gyda'n gilydd, ac ymddiddan, adnabum fod ei anadl yn fyrach. Lleithiodd hyn fy yspryd; dirgel ocheneidiais y geiriau : Collwn ein cyfaill Basset, yn dra siwr.' Wrth rodio yn yr ardd o flaen y tŷ yr oedd yn lletya, cefais achos i ofni nas gwelwn ef byth yn Nghymru drachefn. Wrth gerdded ychydig o lechwedd gwelwn ei fod yn amddifad o ddau beth angen- rheidiol iawn i wynebu mynyddoedd Cymru drachefn, sef rhydd a hir anadl, a grym yn ei gliniau. . . . Trodd ein hym- ddiddan un diwrnod yn dra neillduol ar bethau y wlad uwchlaw yr haul. Cefais le i farnu, yn ngwrs ein cydsiarad, mai nid gŵr dyeithr oedd efe yn y wlad hono. Dywedai wrthyf lawer iawn am iaith y wlad, ac mi welais yn eglur fod ganddo sicrach gafael ar Arglwydd gogoneddus y wlad hono nag oedd gan yr hen gonsumption arno ef." Ar ei glaf wely, yr oedd yn nodedig o nefolaidd ei yspryd; braidd na ellid meddwl fod y Ganaan dragywyddol wedi ymestyn ato dros yr Iorddonen. Dywedai unwaith: "Mi a welaf yn awr nas gallaf bregethu byth mwy, ond os myn Duw i'm wella i ryw fesur, byddaf yn foddlon i gadw drws yn ei dŵ." Ceisiai yn fynych gan ei chwaer ddarllen iddo y drydedd Salm ar ol y ganfed; eithr wedi iddi fyned dros y bumed adnod: "Yr hwn sydd yn diwallu dy enau â daioni, fel yr adnewyddir dy ieuenctyd fel yr eryr," efe a'i hataliai, gan ddweyd: "Dyna ddigon, digon, ddigon ! Tynai gysur mawr o Matthew xviii. 21, 22, lle y cynghora yr Iesu ei ddysgyblion i faddeu i'w gilydd hyd ddengwaith a thri- ugain seithwaith. Digon tebyg yr ed- rychai ar hyn fel cysgod gwan o fawredd maddeuant Duw; a diolchai trosodd a throsodd am "y dengwaith a'r triugain seithwaith." Yn ngafael y geiriau hyn y bu farw yr anwyl Christopher Basset, Chwefror 8, 1784, yn y 31 flwyddyn o'i oed; dyma y geiriau a ddewisodd Mr. Jones, Llangan, yn destun pregeth ang- laddol iddo; ac wrth fyned adref o'r angladd y cyfansoddodd John Williams, St. Athan, y penill adnabyddus :- "Y deg a thriugain saith o weithiau, Dyma'r rhif na dderfydd byth; Maddeu'r hwyr, a maddeu'r boreu, Maddeu beiau rif y gwlith. Dwr a gwaed yw'r afon yma, Ddaeth o ôl y waywffon, Hi dorodd allan ar Galfaria, Hi bâr tra paro'r ddaear gron." Yr ydym yn tybio mai yn Mryste, yn nhŷ ei chwaer, y bu Mr. Basset farw, ond daear Cymru a gafodd y fraint o gadw ei lwch, ac yn St. Athan, yn agos i gartref ei rieni, y rhoddwyd ei gorph i orwedd. I'w dduwioldeb, a rhinweddau ei gymeriad, yn nghyd â'i ddoniau fel pregethwr, dwg y Bardd o Bantycelyn dystiolaeth bendant. "Hwn," meddai, "oedd wr duwiol, dysg- gedig, a rhinweddol; yn bregethwr dwys, gwresog, ac awdurdodol, yn holl athraw- iaethau yr Ysgrythyr Lân; yn arweinydd goleu i'r pererinion trwy holl hyfryd lwybrau y prynedigaeth yn Nghrist; a mawr alar sydd yr awr hon am dano trwy holl Ddeheudir a Gogledd Cymru." Fel y gallesid dysgwyl oddiwrth dynerwch ei gymeriad, efengylydd ydoedd Basset ; gwedd dyner yr efengyl a ddaliai yn benaf gerbron ei wrandawyr. Gwell ganddo eu denu a thynerwch yr addewidion, na'u dychrynu âg arswyd y bygythion. Ar