Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/165

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

CHRISTOPHER BASSET.

131

istiaid yma er y flwyddyn 1740. Bu Howell Harris yn pregethu yn y lle droiau. Ond isel braidd oedd yr achos pan ddaeth ìIr. Basset yma. Buasai Thomas Llewelyn, o"r Ysgubor Fawr, yn nh_v yr hwn yr ar- ferid pregethu, farw ryw ddwy ílynedd cyn hyny ; ac felly nid oedd gan arch Duw gartref sefydlog. Eithr bwriodd Mr. Basset ei goelbren gyda'r Methodistiaid, a bu ei ddyfodiad yn adfywiad dirfawr i grefydd. Yn y pentref, yr oedd gan un Bartholomew Howell dŷ, yr hwn a ar- drethid fel ystafell ddawnsio i ieuenctyd y pentref, a lle y byddai y delyn yn cael ei chwareu yn fynych hyd wawr y boreu. Cymerodd Mr. Basset yr ystafell, a throdd hi yn addoldy i'r Methodistiaid. Yma, bellach, y cedwid y seiadau a'r cyfarfodydd gweddíau ; ac yma y pregethai y cynghor- wyr diurddau, y rhai a ddeuent o gwmpas, ac na oddefid i bregethu yn yr eglwys, er cymaint oedd doniau rhai o honynt. Gofalai y cuwrad am gael prif ddynion y Methodistiaid, yn glerigwyr ac yn gynghorwyr, i St. Ffagan ; a chafwyd cyf- arfodydd y bydd cofìo am danynt i dra- gywyddoldeb, yn yr hen ystafell. Bu Edward Coslet yno ddegau o weithiau, a Dafydd Morris ; ac yn ddiweddarach, er nad yn amser cuwradiaeth Mr. Basset, ei fab enwog, Eben. Morris, yn nghyd âg Eben. Richard, ac amryw o wýr enwog eraill. Bu ei muriau yn adsain ganwaith gan sain mohant a chân yr hen grefydd- wyr gwresog. Yr oedd Mr. Basset yn fwy o Fethodist nac o Eglwyswr, er y cyflawnai ei ddyledswyddau yn y llan gyda phob cydwybodolrwydd.

Tra yn preswyUo yn St. Ffagan, teithiai lawer o gwmpas i bregethu yr efengyl ; ac fel ei gyfaill, Jones o Langan, ni ofalai a oedd yr adeilad yn mha un y llefarai wedi cael cysegriad esgobol ai peidio. Nid yw hanes ei deithiau genym ; ond y mae yn sicr iddo drafaelu y rhan fwyaf o Gymru, a hyny fwy nag unwaith. Cawn iddo fod unwaith yn Nyffryn Clwyd, fel cyfaill, naill ai i Daniel Rowland neu ynte Jones, Llan- gan, ac iddynt gael odfa ryfedd yn mhlwyf Lhindyrnog, wrth " dý Modlen," lle yr arferid pregethu y pryd hwnw. Aeth yn orfoleddu mawr yno ; yr oedd Mr. Basset yn neidio fel hydd ; yr ocdd llu o bobl yn neidio ac yn canmol heblaw efe, ac yn eu mysg merched Plas Llangwyfen, y rhai yn barod oeddynt wedi cael crefydd. Y peniU a ganai Basset wrth fohanu, meddir, ydoedd : —

" Yn y rliyfel mi arosa',

Yn y rhyfel mae fy lle ; Boed fy ngenau wrth y ddaear,

Boed fy llygaid tua'r ne' ; Doed y goncwest pryd y delo,

Dysgwyl wrth fy Nuw a wnaf, Nes o'r diwedd wel'd yn trengu,

Pechod ag oedd bron fy lladd."

Nid hir y bu yn St. Ffagan, er nad yw yn ymddangos iddo gael ei droi i íTwrdd. Gwnaed aml ymgais am gael personiaeth iddo, lle y gallai fod yn annibynol ; ond er llawer o addewidion teg, ni Iwyddwyd. Meddai ei fywgraffydd : " Yr oedd gan ei dad le cyfreithlon, o ran y cariad ag oedd llawer o wỳr mawr y byd yn broffesu iddo, i ddysgwyl dyrchafìad i'w fab, yn ei barch- edig swydd, trwy roddi iddo rai o'r llanau mawrion. Ond pa bryd bynag y deuai yr amser i brofì eu cariad, cadwent draw, gydag esgus tlawd FfeHx, ' Pan gaffwyf amser cyfaddas.' Ac er bod Ue agored ganddynt lawer gwaith i'w dderbyn i bhth eu doctoriaid dysgedig, i gael rhan o'u bydol ysglyfaeth, eto nis gallent lai y pryd hwnw na datguddio yr hen elyniaeth, yr hon sydd yn llywodraethu yn nghalon pob dyn anianol yn erbyn y gwir, er iddo ddyferu allan o enau athraw yn y celfydd- ydau." Yr Hybarch David Jones, Llan- gan, sydd yn ysgrifenu fel hyn ; a gweHr y priodola wrthodiad y rhai ag yr oedd penodi i fywioHaethau Eglwysig yn gor- phwys arnynt, i roddi rheithoriaeth na fìceriaeth i Christopher Basset, i elyniaeth calon y cyfryw yn erbyn y gwir. GeUid meddwl fod pob cymhwysder i swyddog- aeth uchel yn Basset ieuanc ; disgynai o deulu da ; yr oedd yn ddyn dysgedig, wedi graddio yn Rhydychain, ac yr oedd yn gwbl ymroddgar i'w ddyledsv/ydd. Eithr yr oedd ynddo dri angymhwysder mawr yn ngolwg ysweiniaid ac esgobion Eglwys Loegr y pryd hwnw ; yr oedd yn dduwiol, yr oedd yn credu yr athrawiaeth efengyl- aidd fel ei dysgid yn articlau Eglwys Loegr, ac yr oedd yn ymgymysgu â'r Methodistiaid. I ŵr ieuanc fel hyn nid oedd obaith am ddyrchaíiad. Pe buasai yn meddwi ambeU dro ; ac yn arbenig pe y buasai yn flaenhaw gydag erhd y crefydd- wyr a geisient achub Cymru o safn y diafol, buasai ei ragolygon yn Hawer mwy dysglaer. Eithr fel yr ydoedd, ni fu namyn cuwrad trwy ystod ei fywyd.

Ychydig cyn ei farw symudodd i Borth- ceri, yn ymyl cartref ei dad, ac ymddengys ei fod wedi cael cuwradiaeth yr eglwys gerHaw. Ar yr un pryd, elai i mewn ac