Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/164

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

er ei gymhwyso at hyny; a thaer weddïent ar i Dduw ei gynysgaethu â'r dduwioldeb a'r ddawn anhebgor ar gyfer y swydd. I'r un cyfeiriad y rhedai ei dueddfryd yntau, a sylwa ei fywgraffydd nad rhyfyg ynddo oedd dweyd ei fod wedi cael ei alw o'r groth i fod yn was i Iesu o Nazareth. Ychwanega Mr. Jones, mai efe oedd yr unig offeiriad, mor bell ag y gellir cywir farnu, a fagwyd yn Sir Forganwg, yn y ganrif hono, ag oedd yn gwir garu, yn ei neillduol alwad, lwyddiant yr efengyl yn y purdeb o ddaliadau Eglwys Loegr. Adwaenai Jones, Llangan, offeiriaid y wlad yn dda, ac felly mai ei eiriau yn gondemniad ofnadwy ar eu bywydau digrefydd. Pan yn bur ieuanc cafodd Christopher ei anfon i ysgol ramadegol Pontfaen; ysgol o gryn enwogrwydd, yr hon a gawsai ei gwaddoli trwy haelioni Syr Leonine Jenkins, ac a gedwid ar y pryd gan Mr. Thomas Williams. Bu yno amryw flynyddoedd, yn gwneyd cynydd dirfawr yn ngwahanol ganghenau gwybodaeth, eithr ni chollodd ei grefydd, na difrifwch ei ymarweddiad, ac ni phallodd ychwaith yn ei ymlyniad wrth y Methodistiaid. Tra yma daeth i gyffyrddiad â Jones, Llangan. Nid oedd Llangana, plwyf Mr. Jones, ond rhyw bum' milltir, fel yr hed brân, o Bontfaen; ac nid anhebyg i'r bachgen Christopher groesi y bryn, heibio i gastell Penllin, lawer Sabbath i wrando y gŵr enwog hwnw yn efengylu i'r canoedd a ymgasglai yno. Wedi gorphen ei efrydiaeth yn y Bont- faen, rhoddodd ei dad ei ddewis iddo, naill ai byw gartref ar ei dir ei hun, ynte myned i Rydychain. Hyn, yn ddiau, a wnaeth er mwyn ei brofi, oblegyd yr oedd yn awyddus am iddo ymgyflwyno i'r weinid- ogaeth. Eithr yr oedd ateb ei fab wrth fodd calon y tad; "Gobeithio," meddai, "y caf dreulio fy mywyd yn y gwaith o ddywedyd y gwir dros Dduw wrth fy nghydgreaduriaid, er gogoniant Iesu, a thragywyddol ddaioni dynion." Pender- fynodd hyn y pwnc; i Rydychain y cafodd Christopher fyned, ac ymaelododd yn Ngholeg yr Iesu. Gw om pa mor Ilygredig ac annuwiol oedd moesau Rhyd- ychain ar y pryd. Methasai Howell Harris fyw yno oblegyd drygioni y lle; nid yw yn ymddangos fod pethau fymryn gwell yn amser Basset, oblegyd yr oedd y Methodistiaid a fuont unwaith yn allu yn y Brif-ysgol oll wedi ymadael, ac nid yw yn ymddangos fod nemawr o'u dylanwad yn aros. Eithr yr oedd purdeb y gwr ieuanc o Aberddawen mor bendant, a gras Duw yn ei galon mor gryf, fel y daeth allan oddiyno heb dderbyn dim niwed, wedi derbyn y gradd o M.A. A Chris- topher Basset, o Fro Morganwg, neu ynte, Nathaniel Rowland, mab yr hen Apostol o Langeitho, oedd yr M.A. cyntaf a fu yn perthyn i'r Methodistiaid. Braidd nad yw y fantol yn troi o blaid y Parch. Nathaniel Rowland, gan ei fod ryw gym- aint yn hyn na Basset. Am ei gadwedig. aeth yn nghanol hudoliaethau y Brif- ysgol, canai Williams, Pantycelyn, yn y modd a ganlyn :- "Gwelwch yntau yn mhlith canoedd, Yn Rhydychain, ysgol clod, Yn ymwadu â'r arferion Sydd gan ie'nctyd yno'n bod; Fe yn yfed ffynon bywyd, Athrawiaethau dwyfol, gwiw, Tra f'ai eraill yn eu gwawdio, Ac yn damsang geiriau Duw. P'odd na buasid yn dy demtio I bleserau trythyll, gwael, Pan oedd natur yn dy wahodd, Ac yn cynyg i ti dál? Arfaeth gadarn trag'wyddoldeb Yno safodd o dy flaen, Ac mae'r arfaeth yn gadarnach, Mur o bres a mur o dân." Cafodd ei ordeinio gan Esgob Llundain, ac ar ei alwad i fod yn guwrad i Mr. Romaine, yn St. Anne, Blackfriars. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at Mr. Romaine, fel clerigwr nodedig o efengyl- aidd, yr hwn oedd ar delerau tra chyfeill- gar âg amryw o Fethodistiaid Cymru. Felly yr oedd y ddau, y clerigwr a'i guwrad, mewn hollol gydymdeimlad â'u gilydd. Yn Llundain, ymdaflodd Mr. Basset i waith yr efengyl a'i holl enaid; pregethai gyda nerth a dylanwad; ac heblaw gwasanaethu yn St. Anne, tra- ddodai ddarlithiau yn wythnosol yn eglwys St. Ethelburga. Eithr ymddengys mai gwanaidd o iechyd ydoedd yn naturiol, a bod ei lafur yn y Brifddinas yn ormod i'w gyfansoddiad; yn mhen enyd hefyd cafodd ei daro â thwymyn drom, yr hyn a'i dygodd i ymyl pyrth y bedd. Tybiai ei rieni nad oedd awyr Llundain yn dygymod âg ef, a pherswadiasant ef i ddychwelyd i wlad ei enedigaeth. Cafodd guwradiaeth St. Ffagan, pentref prydferth tua thair milltir o Gaerdydd. Yn ol Methodistiaeth Cymru, tua'r flwyddyn 1778 y daeth i St. Ffagan; felly yr oedd yn rhyw bum'-mlwydd-ar- hugain oed. Yr oedd seiat gan y Method-