Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/550

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei le yn yr eglwys fel cyflawn aelod. Yr ydoedd yn bur ei foes, yn cael dirfawr hyfrydwch wrth wrando y Gair, yn fanwl yn nghyflawniad ei ddyledswyddau crefyddol, ac yn dra chymeradwy yn mysg pobl yr Arglwydd. Ónd ni phrofasai argyhoeddiadau cryfion; nid oedd, yn ol iaith yr hen bobl, wedi cael ei arwain at Sinai, i weled y mynydd yn mygu drosto, y melt yn llewyrchu yn ofnadwy, a tharanau y gyfraith yn rhuo, ac yntau yn cael ei ddal yn euog gerbron Duw, nes yr oedd yn myned yn golli bywyd arno. Mawr ddymunai gael rhywbeth tebyg i hyn; gweddïai am dano gerbron yr Arglwydd. A'i ddymuniad a gafodd. Pa foddion a ddefnyddiwyd i gynyrchu cyffro yn ei enaid, nis gwyddom; ond aeth yn ystorm fawr arno. Bu am ryw gymaint o amser yn crwydro ar ymylon anobaith; teimlai fod uffern wedi agor ei safn i'w dderbyn, ac ni chanfyddai un drws o waredigaeth yn agor. Am ryw yspaid ceisiai ddod i fynu ar dir y ddeddf, gan ymroddi i ymprydiau, gweddïau, a phenydiau poenus, ddydd a nos. I'r pwrpas hwn ymneillduai o gymdeithas ei gyfeillion, gan dreulio y rhan fwyaf o'i amser ar ei ben ei hun. Ond nid oedd y pethau hyn yn tawelu rhuadau ei gydwybod, ac nis beiddiai eu cynyg i'r Arglwydd fel defnydd cyfiawnder. Mor galed ydoedd ar ei yspryd, fel y bu raid iddo roddi i fynu ei alwedigaeth, a dychwelyd i dŷ ei rieni. Ond ar ol cael ei guro yn nhrigfa dreigiau, cafodd olwg ar y ddihangfa. Fel hyn yr ysgrifena, am Orphenaf 1af, 1801: "Y noswaith hon oedd y fwyaf ofnadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mai ynddi y dechreuodd dydd na bydd terfyn iddo byth." Y gair a fendithiwyd i chwalu y tywyllwch oddiar ei feddwl oedd Heb. vii. 25: "Am hyny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy." Ystyriai ef, gwedi hyn, ei fod wedi rhyfygu pan yn gweddio am gael argyhoeddiad llym, a rhybuddiai eraill rhag dilyn ei esiampl. "Gwnaethum i felly," meddai, "a chefais fy neisyfiad; ond dyoddefais tano loesion ac arteithiau na ewyllysiwn weled na chi na sarph yn dyoddef eu bath."

Dychwelodd Mr. Richard i Frynhenllan yn ddyn newydd. Nid ydym am benderfynu nad oedd yn dduwiol yn flaenorol, ond yr oedd yn awr wedi pasio trwy argyfwng difrifol, argyfwng a'i gwnaeth yn

ddyn gwahanol am byth. Bellach, yr oedd yn fawr ei awydd am wasanaethu ei Brynwr, a cheisiai y brodyr ganddo gymeryd rhan yn y cyfarfodydd cyhoeddus. Hyny a wnelai yntau, ac yr oedd y fath hynodrwydd yn ei ddawn, y fath briodoldeb yn ei eiriau, a'r fath ddwysder angherddol yn ei yspryd, nes synu pawb. Gorfodid ef yn aml i ddechreu yr odfaeon o flaen pregethwyr dyeithr, ac nid anfynych byddai mwy o son am y weddi ddechreuol nag am y pregethau a ganlynai. Trwy hyn, daeth ei gymhwysderau arbenig ar gyfer gwaith y weinidogaeth yn amlwg, a chymhellwyd ef gan henuriaid yr eglwys i lefaru. Petruso a wnaeth am beth amser; ofnai ruthro yn rhyfygus, ac heb gael ei alw, at y gwaith goruchel; ac y mae yn ymddangos mai gwrthsefyll pob cymhelliad a wnelai, oni bai ofn digio yr Arglwydd. Pregethodd gyntaf yn y Dinas, oddiar Rhuf. viii. 34: "Crist yw yr hwn a fu farw." Y mae rhaniadau, ac is-raniadau, y bregeth ar gael; nid oes dim neillduol ynddynt, ond eu bod yn hynod o Buritanaidd o ran arddull, ac yn dra Ysgrythyrol o ran cynwys. Dywedir, modd bynag, fod llewyrch mawr ar yr odfa; i rywbeth hynod ddisgyn ar yspryd y pregethwr ei hun, ac hefyd ar ysprydoedd y gwrandawyr.

Bu yn pregethu am ryw yspaid heb gael ei awdurdodi gan unrhyw lys crefyddol, oddigerth eglwys y Dinas. Yn mhen tua blwyddyn dechreuodd ei frawd Thomas bregethu, ac yn fuan aed âg achos y ddau i'r Cyfarfod Misol. Yr oedd Mr. Jones, Llangan, erbyn hyn wedi symud i fyw i Sir Benfro, ac efe a gymerai y rhan fwyaf blaenllaw yn yr arholiad. Holai yn galed, ac yr oedd ei wedd yn llym a difrifol; ond cafodd ei lwyr foddloni yn yr atebion, ac y mae yn debyg ei fod wedi cael cyfleustra yn flaenorol i'w gwrando, oblegyd wrth ddyfod allan o'r cyfarfod dywedai wrth ŵr dyeithr oedd yn bresenol: "Y mae y ddau fachgen hyn yn pregethu fel dau angel." Ymdaflodd Mr. Ebenezer Richard i waith yr efengyl gydag yni a phenderfyniad. Nid oes genym unrhyw fanylion am ei lafur, na hanes odfaeon hynod a gafodd; ond y mae yn sicr iddo, oblegyd arbenigrwydd ei ddawn a'i addfedrwydd, gael ei hun yn fuan yn y ffrynt yn mysg pregethwyr Sir Benfro. Cadwai ddydd-lyfr; ond ceir ynddo yn benaf nodiadau ar ystad ei yspryd, a'i brofiad yn y gwaith, yn hytrach na hanes gwahanol ddygwyddiadau cysylltiedig a'r achos crefyddol