Abermaw. Ymwelodd yr Arglwydd yn gyntaf a Mrs. Griffith, wedi hyny â'i mab Hugh, ac yn ddiweddaf â Robert Griffith ei hun, a dyma gychwyniad Methodistiaeth yn Abermaw. Ar ol bod yn symud o fan. i fan mewn cysylltiad â'r ysgol, yr ydym yn cael Henry Richard o'r diwedd yn ymsefydlu yn Nhrefin, Sir Benfro. Treuliodd weddill ei oes yn dra defnyddiol, gan gynorthwyo Howell Davies, John Harries, Evan Harries ei fab, Jones, Llangan, ac eraill, gyda gwaith yr Arglwydd yn Mhenfro, a gadael argraff ar feddwl pawb, os nad oedd yn bregethwr mawr, ei fod yn hynod o dduwiol, ac yn enwog am ei ddawn gweddi. Cafodd fyw i weled oedran teg; ond yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1812, syrthiodd y ceffyl dano wrth ei fod yn dychwelyd adref o'i gyhoeddiad, a thorodd yntau ei glun; yr hyn a derfynodd yn ei angau, Rhagfyr 7, 1812.
Ganwyd Ebenezer Richard yn Nhrefin, Rhagfyr 5, 1781. Felly, yr oedd ddeuddeg mlynedd yn ieuangach nag Ebenezer Morris, a David Evans, Aberaeron. Nid annhebyg iddo gael cyfleustra i wrando Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, oblegyd yr oedd agos yn naw mlwydd oed pan fu y cyntaf farw, ac yn myned ar ei ddeg adeg marwolaeth yr ail; ond yr oedd Howell Davies, Apostol Sir Benfro, wedi cael ei osod i orwedd yn y priddellau un-mlynedd-ar-ddeg cyn iddo ef gael ei eni. Dywed ei frawd mai plentyn ofnus a gwylaidd oedd Ebenezer; ni welid mo hono yn ymdaflu i chwareuaeth gyda phlant y gymydogaeth, ond yn hytrach hoffai gymdeithas ei fam, a'i lyfr. Ymddengys ei fod er yn blentyn o duedd grefyddol; cymerai ei fam, yr hon oedd. yn enwog am ei duwioldeb, drafferth i'w hyfforddi yn ngwirioneddau yr efengyl, a dygai ef gyda hi i'r gymdeithas eglwysig yn Nhrefin.
Adroddir am dano ddarfod iddo pan yn chwech mlwydd oed, Sul y cymundeb, estyn ei law a chymeryd y bara; canfu ei fam ef, a rhwystrodd ef i dderbyn y cwpan. Gwedi myned allan, hi a'i ceryddodd ef, gan ddweyd: "Fy anwyl blentyn, paham y gwnaethost ti hyn?" Yntau yn doddedig a ofynodd yn ol: "Paham y gwnaethoch chwi hyn ?" "Cofio yr oeddwn i," ebai hi, “am angau Mâb Duw." "Hyny oeddwn inau yn wneuthur," meddai yntau; a'i fam a aeth yn fud.
Ychydig a wyddom am ddyddiau ei ieuenctyd, nac am yr addysg a dderbyniodd. Gan fod ei dad yn hen ysgolfeistr, nid annhebyg iddo gyfranu rhyw gymaint o elfenau dysgeidiaeth i'w feibion, ac i Ebenezer fanteisio yn helaeth ar hyny. Cafodd hefyd yn ddiau ei anfon i'r ysgolion goreu oedd yn y rhan hono o'r wlad. Efallai iddo fod dros ryw gymaint o amser yn Ysgol Ramadegol Hwlffordd. Yr hyn sydd yn peri i ni dybio hyny yw, mai hynod o wael oedd yr addysg a gyfrenid y pryd hwnw yn yr ysgolion gwledig, a bod Ebenezer Richard yn ysgolhaig rhagorol, yn medru ysgrifenu Cymraeg a Saesneg yn gywir a gramadegol; a thebyg hefyd ei fod i raddau yn gydnabyddus â'r ieithoedd clasurol, onide nis gallai fyned yn athraw i feibion boneddwr o safle. Yr oedd yn ddysgwr cyflym, ac yn dra hoff o lyfrau. Gwedi dyfod yn llanc, teimlodd bleser dirfawr mewn gwrando yr efengyl; yr adeg hono yr oedd pregethu teithiol yn ei ogoniant, a phan yr ymwelai pregethwyr enwog a phoblogaidd â Sir Benfro, canlynai hwynt an ddyddiau o ardal i ardal. Pan oedd tua phymtheg mlwydd oed cafodd ei orddiwes gan afiechyd peryglus; bu yn agos i angau yr adeg hon, ond Duw a drugarhaodd wrtho, ac wrth eglwysi Cymru. Effeithiodd yr afiechyd arno er ei wneyd yn fwy difrifol, ac yn fuan cymerodd ei le fel cyflawn aelod yn eglwys Dduw. Y flwyddyn ganlynol y glaniodd y Ffrancod yn Mhencaer, ger Abergwaun. Y mae yr hanes. mor gyffredinol hysbys fel nad rhaid i ni ei adrodd; ond gallwn nodi fod Trefin o fewn ychydig filldiroedd i'r man y tiriasant, a darfod i'r amgylchiad effeithio yn ddwys ar feddwl Ebenezer ieuanc. Cyfansoddodd gân ar yr amgylchiad, yr hon a gafodd ei hargraffu y flwyddyn hono. Difynwn un penill o honi, nid am y cynwysa lawer o wir farddoniaeth, ond er dangos difrifwch yspryd y cyfansoddydd:
"Cawsom waredigaeth hynod,
Gwaredigaeth loyw, lân;
Gwaredigaeth nad oedd ynddi
Swn bwledau, na thwrf tân!
Ein cadernid oll fu'n sefyll
'N unig ar ei ysgwydd gref,
Yn y man lle mae yn pwyso
Daear gron ac uchder nef."
Yn mhen yspaid o amser ar ol hyn symudodd o dŷ ei rieni i gadw ysgol yn Mrynhenllan, lle rhwng Trefdraeth ac Abergwaun. Yma y daeth yn argyfwng yn ei hanes ysprydol. Yr ydoedd o'i febyd, fel y darfu i ni sylwi, o duedd grefyddol, ac er ys peth amser bellach wedi cymeryd