feydd gwaedlyd. Gan ei bod yn ddefod Gan ei bod yn ddefod gwlad, a hyny er cyn côf, byddai dynion crefyddol yn myned i'r priodasau hyn; ac er na fyddent hwy, fel rheol, yn cael eu llithio i feddwdod, nac yn cyfranogi yn yr ymladd a'r maswedd, rhoddent eu cefnogaeth i'r arferiad. Tynasai yr ysgelerder hwn sylw y Cyfarfod Misol, a gwnaed amryw ymdrechion difrifol i osod terfyn arno, o leiaf yn mysg aelodau y Methodistiaid. Ond mor ddwfn a gafaelgar yr oedd wedi gwreiddio yn y wlad, fel y profasai pob ymdrech yn aflwyddianus. O'r diwedd, wrth weled y ffieidd-dra annghyfaneddol yn beiddio sefyll yn y lle sanctaidd, ac yn derbyn cymeradwyaeth gyhoeddus rhai o'r swyddogion, enynodd tân yn enaid Mr. Richard, fel y penderfynodd ddyrchafu ei lais yn enw yr Arglwydd yn erbyn y drwg. Cymerodd y cyfle cyntaf i roddi ei fwriad mewn grym yn nghyfarfod yr eglwys yn Nhregaron. Safodd i fynu yn wrol, gan ofyn pwy oedd o du yr Arglwydd, ac er na chafodd ond un blaenor i'w gefnogi, aeth yn mlaen gyda hwnw i lanhau y tŷ. Cafwyd deuddeg o'r aelodau yn euog, a diarddelwyd hwynt oll yr un cyfarfod. Dranoeth, yr oedd ei gyhoeddiad yn Llangeitho, ac yno yr aeth, yn ddiegwan o ffydd, a'i enaid yn llosgi ynddo gan eiddigedd dros ogoniant ei Feistr. Cymerasai dwy briodas, o'r nodwedd a nodwyd, le yno yn ddiweddar, a'r eglwys yn byw yn dawel yn nghanol y llygredigaeth; ond gwnaeth ef ymosodiad gorchestol ar yr anwiredd, a'r canlyniad oedd diarddel pawb a gymerasai ran yn yr afreolaeth. O hyn allan gwaherddid holl aelodau y Methodistiaid, dan boen diarddeliad, rhag rhoddi eu presenoldeb mewn priodasau o'r fath; yn raddol, trwy eu condemniad hwy yn benaf, gwywodd yr arferiad, ac yn y man diflanodd yn gyfangwbl. Yn sicr, yr oedd yr ymddygiad hwn o eiddo Mr. Richard, pan nad oedd ond dyn ieuanc deg-ar-hugain oed, yn brawf o ddewrder yspryd, ac o zêl dros burdeb cysegr Duw, na cheir yn aml ei gyffelyb.
Yr ydym yn flaenorol wedi adrodd hanes dadl y Neillduad, a'r cyffro a achoswyd ganddi. Fel y darfu i ni sylwi, y prif ddadleuydd yn y Deheudir o blaid y symudiad oedd Mr. Ebenezer Morris; ond darfu i Mr. Richard, a Mr. Charles, Caerfyrddin, er na chymerasant ran mor gyhoeddus yn yr helynt, wneyd llawn cymaint er addfedu teimlad y wlad ar y pwnc. Byddai Mr. Richard yn arbenig mewn ymddiddanion preifat yn dadleu yn gryf o blaid cymeryd y cam hwn, a bu nerth ei resymau yn foddion i argyhoeddi llawer. Prawf o'r lle uchel a feddai yn marn ei frodyr yw iddo, wedi i farn gael ei dwyn i fuddugoliaeth, gael ei neillduo yn mysg y rhai cyntaf i weinyddu y sacramentau, er ei fod yr ieuangaf o bawb o honynt, ac yn wir, heb gyrhaedd ei ddeg-mlwydd-ar-hugain. Ymddengys fod y cyfarfod ordeinio yn Llandeilo Fawr yn nodedig am urddas a'i ddifrifwch. Fel hyn yr ysgrifenai un oedd yn bresenol at feibion Mr. Richard: "Mewn perthynas i'r Neillduad cyntaf, er fy mod yno, y mae y rhan fwyaf wedi ei anghofio. Ond yr wyf yn cofio tri pheth yn berffaith; sef yn gyntaf, mai y Gymdeithasfa hono oedd yr un fwyaf ofnadwy y bum ynddi yn fy mywyd. Yr oedd pob cnawd yn crynu; ïe, yr oedd llawer o'r gweinidogion mwyaf duwiol, hyawdl, a chadarn yn yr Ysgrythyrau, bron methu ateb gan fawredd Duw. Yn ail, dull hynaws Mr. Charles, o'r Bala, yn gofyn y cwestiynau. Yr oedd ei wedd yn hardd a siriol, ei eiriau yn fwyn ac yn enillgar iawn. Wrth ddechreu gofyn i bob un, arferai yr un geiriau, sef, A, B, a fyddwch chwi mor fwyn a dweyd gair o'ch meddwl am y bôd o Dduw,' &c. Yn drydydd, wrth weled amrai yn crynu, a bron yn methu, yr wyf yn cofio yn dda fy mod mewn pryder mawr mewn perthynas i'ch tad, rhag ofn iddo golli, oblegyd yr oedd yn ieuangach na hwynt oll. Ond cafodd ei hoff bwnc, sef Duwdod Crist; a phan glywais hwnw, syrthiodd fy maich yn y fan, oblegyd gwyddwn fod hwn yn anwyl, ac fel A, B, C ganddo. Dywedodd ei feddwl arno yn oleu, yn rhydd, yn gadarn, ac i foddlonrwydd mawr, fel y collais fy ofnau ar unwaith."
Darfu i'w neillduad i weinyddu y sacramentau ychwanegu yn ddirfawr at lafur Mr. Richard. I'w ran ef, neu Mr. Williams, Lledrod, y disgynai cyfranu yn holl gynulleidfaoedd y Methodistiaid yn rhan uchaf y sir. Ac nid yn anfynych byddai y fath eneiniad ar ei yspryd ef ei hun, a'r fath lewyrch dwyfol ar y gwirioneddau a draethai, wrth weinyddu yn y cymun, nes peri hyd yn nod i'r rhai mwyaf rhagfarnilyd ddygymod â'r oruchwyliaeth newydd. Yn y flwyddyn 1815, y gyntaf y mae ei gyfrif genym, yr ydym yn cael i Mr. Richard bregethu 343 o weithiau, gweini sacrament swper yr Arglwydd 73 o weithiau, a bedyddio 21 o blant. Ar yr olwg