gyntaf ymddengys nifer y plant a fedyddiwyd yn fychan o'i gymharu âg amledd y gweinyddiad o'r sacrament arall, ond dylem gofio i'r Methodistiaid fod yn fwy araf yn ymryddhau oddiwrth yr iau offeiriadol parthed bedydd, na'r gweinyddiad o'r 'cymun. Am ryw reswm, nas medrwn roddi cyfrif am dano, byddai Methodistiaid zelog gyda phob peth arall yn myned a'u babanod i'w bedyddio at yr offeiriaid. A rhaid i ni ychwanegu y byddai y clerigwyr yn gwylio yn eiddigeddus pwy a aent â'u plant i'r capelau, i'w bedyddio gan y gweinidogion newydd-ordeiniedig, ac y byddent yn dial ar y cyfryw, trwy eu drygu yn eu masnach, neu eu gyru o'u ffermydd, os byddai hyny yn bosibl iddynt. Am alw Mr. Richard i fedyddio ei faban cafodd Mr. David Jones, Dolaubach, y blaenor synwyrgall a berchid trwy yr holl fro, ei yru o'i dyddyn. Ond yn raddol diflanodd rhagfarn y bobl, a methodd yr erledigaeth yn ei nod, oblegyd yn mhen chwech mlynedd ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1821, yr ydym yn cael ddarfod i Mr. Richard fedyddio 58 o blant, a hyny er fod nifer y gweinidogion Methodistaidd wedi lliosogi yn fawr.
Fel yr ydym wedi cyfeirio eisioes gwnaed ymdrech egniol, gwedi y Neillduad, i berswadio y penaf yn mysg gweinidogion ¡y Methodistiaid i gymeryd urddau esgobol, ac yn eu mysg ymosodwyd ar Mr. Richard. Anfonwyd am dano gan John J ones, Ysw., Derry Ormond, yr hwn oedd yn berthynas i'w wraig, ac wedi talu cryn sylw iddo yntau. Wedi iddo gyrhaedd y palas, a chael pob groesaw, dywedai y boneddwr wrtho ei fod ef, a Mr. Evans, ficer Llanbadarn Fawr, wedi penderfynu cynyg iddo bersoniaeth yn yr Eglwys Sefydledig, lle y caffai fywyd mwy esmwyth, a sefyllfa fwy parchus, nag a allai obeithio gael yn mysg y Methodistiaid; a'i fod ef (Mr. Jones) wedi gwystlo ei air y byddai iddo ei berswadio i gydsynio. Atebodd yntau ar unwaith: "Y mae y peth yn anmhosibl, syr." Synodd y boneddwr yn ddirfawr, a gofynodd, "Paham ?" Atebodd yntau: "Yn gyntaf, byddai cydsynio â'r cynygiad yn weithred groes i'm cydwybod, canys yr wyf o egwyddor yn ymneillduo oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Yn nesaf, yr wyf yn barnu y byddaf yn fwy defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd yn y man lle yr ydwyf. Ac yn nesaf, y mae cymaint o anwyldeb ac undeb rhyngof a fy mrodyr, fel y byddai y rhwygiad yn annyoddefol i'm teimladau."
Ni fedrai y boneddwr ateb y rhesymau hyn; ond dywedodd gyda gwedd anfoddog, ei fod yn ei ystyried yn ffol iawn er ei les ei hun i wrthod y fath gyfleustra. Parhaodd Mr. Richard yn Ymneillduwr egwyddorol trwy ystod ei oes. Unwaith, mewn cyfeillach, gwnaed cyfeiriad at bregethwr oedd wedi gadael ei frodyr ac wedi myned drosodd i'r Eglwys Sefydledig. Dywedai rhywun oedd yn bresenol: "O'm rhan i, yr wyf yn meddwl iddo wneyd yn burion, oblegyd caiff fywioliaeth lawer mwy cysurus, a'r un cyfleustra i bregethu yr efengyl." Cyffrodd Mr. Richard trwyddo, a chyda llymder a phwyslais atebai: "O na, os nad oes genym rywfaint o brinciple yn y pethau hyn, nid ydym werth dim." Dro arall, yn ystod ei ymweliad olaf â Llundain, pan yr oedd Mrs. Richard ac yntau yn pasio trwy Smithfield, dywedai: "Dyma'r fan, Mary fach, lle y merthyrwyd llawer o'r hen dduwiolion." "Ie," ebai cyfaill Ië, oedd gyda hwynt, "ond y mae yn amser braf arnom ni." "Ydyw," meddai Mr. Richard yn ol, "y mae yn well, yn ddiau, ond y mae llawer o erledigaeth eto. Beth y mae dynion yn ei feddwl wrth Ddeddf y Goddefiad? Dim ond ein 'goddef ni y maent hwy eto. O ffei! ffei! Goddef dynion i addoli Duw yn ol eu cydwybod."
Yn 1811, sef gwanwyn blwyddyn y Neillduad, torodd diwygiad crefyddol cryf allan yn Nhregaron, a'r eglwysi cymydogaethol, yr hwn a ymledodd fel fflam trwy Gymru. Efallai mai hwn oedd yr ymweliad mwyaf grymus a gafwyd er dyddiau Daniel Rowland; ac edrychai y wlad arno fel arwydd o foddlonrwydd Duw i'r cam oedd y Cyfundeb wedi ei gymeryd. Daliwyd y difeddwl âg arswyd, llanwyd calon y rhai mwyaf rhyfygus mewn annuwioldeb â dychryn, aeth yn floedd am fod yn gadwedig trwy y broydd, a gwelwyd hen bererinion Seion yn tynu eu telynau oddiar yr helyg, ac yn tori allan mewn sain cân a moliant. Un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn y diwygiad hwn oedd Mr. Richard. Fel y mae gwaethaf y modd hanes un o'i odfaeon nerthol yr adeg hon yn unig sydd ar gael. Un boreu Sabbath pregethai yn Llangeitho; yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a chan fod hwnw yn eang, a rhan fawr o hono heb na seddau na meinciau, cynwysai dorf anferth o ddynion. Testun Mr. Richard oedd Luc xvi. 23: "Ac yn uffern efe a gododd ei olwg." Pregeth ofnadwy oedd hono. Rhaid fod rhyw ddwysder angherddol wedi meddianu enaid y pregethwr cyn y beiddiai