Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/559

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gymeryd y fath destun. Yr oedd yn lle difrifol yno mewn gwirionedd, mellt y bygythion yn gwibio, taranau melldithion y gyfraith yn erbyn ei throseddwyr yn rhuo, dynion yn llewygu gan ofn, a chenad y nefoedd yn y pwlpud fel pe yn cyhoeddi y farn dros Dduw. Sut y terfynodd y cyfarfod ni chlywsom, ond y tebygolrwydd yw i'r pregethwr agor drws gobaith o led y pen, a chyfeirio meddwl y bobl at Grist, nes yr aeth rhwymau llawer yn rhyddion. Un o'r dyddiau canlynol yr oedd Mr. Williams, Lledrod, yno yn cadw seiat, a deg-ar-hugain mewn edifeirwch yn gofyn am le yn nhŷ Dduw. O'r rhai hyn priodolai wyth-ar-hugain eu hargyhoeddiad i bregeth Mr. Richard. Wrth ei fod yn holi yr ymgeiswyr am yr hyn oedd wedi eu dwyn i ystyriaeth o'u cyflwr, ac yn cael yr un ateb gan agos bawb, llefodd Mr. Williams mewn syndod: "Garw gymaint o honoch chwi saethodd e â'r un ergyd." Yn wir, dywedir i ugeiniau lawer gael eu hychwanegu at eglwysi y gymydogaeth, heblaw y rhai dderbyniwyd yn Llangeitho, a'u bod agos oll yn priodoli eu dychweliad i'r bregeth ryfedd y boreu Sul hwnw.

Yn y flwyddyn 1813, cafodd ei benodi i fod yn Ysgrifenydd Cymdeithasfa y Deheudir. Dywedir i'r penodiad gael ei wneyd yn unol â chynghor Mr. Charles, o'r Bala. Nis gellid cael o hyd i neb mwy cymhwys. Yr oedd ei hoffder o drefn, tuedd ymarferol ei feddwl, yr addysg foreuol a gawsai, yn nghyd â'i gydnabyddiaeth â nodweddion y Cyfundeb, yn ei gymhwyso mewn modd arbenig ar gyfer y gwaith. Ei hysgrifenydd yw bywyd pob cymdeithas os bydd yn ddyn o allu, ac o hyn hyd ddydd ei farwolaeth Mr. Richard fu y mwyaf ei awdurdod a'i ddylanwad yn Nghymdeithasfa y Dê. Gwedi marwolaeth y Parch. Ebenezer Morris, a dygn afiechyd Mr. Charles, Caerfyrddin, braidd na ellid dweyd fod holl lywodraeth y Gymdeithasfa yn gorwedd ar ysgwyddau Mr. Richard, a'i frawd doniol, Mr. Thomas Richard. Ni chredai ei gydoeswyr fod y fath ysgrifenydd. Ebai y Parch. William Morris, Cilgeran, am dano yn ei bregeth. angladdol: "Fel ysgrifenydd y Gymdeithasfa yr oedd heb ei fath. Yr oedd gan Dafydd frenin Jehosaphat yn gofiadur, a Sadoc yn ysgrifenydd; ond mi feddyliwn nad oeddynt ill dau yn nghyd ddim cymaint a'n Ebenezer ni. Y pethau a drinid yn sathredig, efe a osodai bob aelod yn ei le, ac a ddarllenai y sylwadau yn y Gymdeithasfa nesaf, nes y byddai pawb wedi cael cyflawn daliad am eu trafferth i deithio i'r lle. Hyderaf y ceir y blwch, ac y gosodir ef yn yr argraffwasg, nes y gwasgerir ei beraroglau dros holl derfynau yr iaith Gymraeg." Yr oedd y Parch. William Morris yn ŵr craff a sylwgar, a diau mai ei farn ef am gymhwysderau arbenig Mr. Richard fel ysgrifenydd oedd yr un a goleddid yn gyffredinol.

Dywedir yn ei gofiant iddo, tua'r flwyddyn 1814, gysegru llawer o'i amser a'i egni i alw sylw y cynulleidfaoedd at y ddwy gymdeithas ragorol, sef Cymdeithas y Beiblau a Chymdeithas Genadol Llundain. Yn hyn eto yr ydym yn ei gael yn canlyn yn ol traed Mr. Charles. Yn wir, yr ydym yn cael ein taraw yn barhaus gan y tebygolrwydd mawr a fodolai rhwng y ddau; tebygolrwydd parthed athrylith, craffder i weled angen y werin, a llwyredd ymgysegriad gyda y cynlluniau tebycaf i gyflenwi y cyfryw angen. Darllenai Mr. Richard adroddiadau y cymdeithasau hyn yn fanwl, ac ymgydnabyddai â'u gweithrediadau; yna ai o gwmpas, gan draddodi areithiau brwd drostynt, a mynegi am y daioni dirfawr a wnaent, yn y gwahanol gapelau, nes cynyrchu cydymdeimlad cyffredinol â'u hamcanion, a chasglu swm mawr o arian i'w coffrau. I lafur Mr. Richard y rhaid i ni briodoli y cydymdeimlad â Chymdeithas y Beiblau sydd yn parhau yn rhan uchaf Sir Aberteifi, a'r ymdrech a wneir, ac ystyried tlodi y wlad, i gasglu tuag ati.

Y mae yn syn na fu Mr. Richard yn gwasanaethu yr achos crefyddol yn Llundain, hyd y flwyddyn 1818. Nid oes genym un esboniad priodol ar hyn. Anhawdd genym gredu na chafodd yn flaenorol wahoddiadau mynych a thaer gan y cyfeillion yno; ond efallai fod amledd ei orchwylion a phrinder amser yn ei rwystro i'w derbyn. Pa fodd bynag, daeth y ffordd yn rhydd iddo fyned yn Ngwanwyn 1818; cadwodd yntau ddydd-lyfr manwl yn cynwys hanes gwaith pob dydd yn ystod ei arosiad. Y mae y dydd-lyfr ar gael, a buasem yn difynu yn helaeth o hono oni bai prinder gofod. Bu yno am ddau fis, ac heblaw gwasanaethu ei gydgenedl, hysbysir ni iddo fod yn bresenol mewn chwech-ar-hugain o gyfarfodydd cyhoeddus, a gwrando chwech-ar-hugain o bregethau yn yr iaith Saesneg.

Mewn un ystyr, ychydig o hanes sydd i Mr. Richard. Neu, yn hytrach, ei hanes