Tudalen:Yn y Wlad.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XII
CORWEN

CORWEN yw cartref yr Eisteddfod Genedlaethol. eleni,[1] ac y mae'n debig fod llawer, wrth ddarllen y llinellau hyn, yn troi eu meddyliau at Gorwen, yn holi pa fath le ydyw, ac yn paratoi i fyned yno.

O'i chymharu a chartrefi arferol yr Eisteddfod, lle bychan ydyw Corwen; a synna llawer at ddewrder a sel lenyddol y trigolion, oherwydd gŵyr pawb mai nid baich bychan hyd yn oed i le mawr a chyfoethog ydyw cynnal Eisteddfod Genedlaethol heb golli urddas nac arian. Os medr Corwen lwyddo ddechre'r mis hwn, bydd wedi gwneud cymwynas fawr â Chymru, sef dangos y medr rhai o'n trefi bychain, lle mae'r hen gariad at hanes a llenyddiaeth a chân yn llosgi'n eirias, gynnal cynhulliad mor anferth a'r peth y mae'r Eisteddfod wedi tyfu i fod erbyn hyn.

Nid wyf yn meddwl dweyd fod Corwen yn lle bychan dibwys, pell oddiwrthyf fo dweyd hynny. Y hi yw prif dref Edeyrnion; lle cyferfydd tair sir, sef Meirionnydd, Dinbych, a Threfaldwyn; mae'n ganolbwynt gwlad eang y gwlan a'r gwenith, gwlad y Berwyn ac ardaloedd y Ddyfrdwy a dyffryn clodfawr Clwyd; mae'n fan cyfarfod llawer o ffyrdd, yn y rhan yma o'r wlad rhaid mynd drwy

Gorwen i fynd i bobman. Ond un heol sydd

  1. 1919. Yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ar ol darfod y Rhyfel Mawr