Tudalen:Yn y Wlad.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddi, ac nid yw ond y leiaf ymysg trefi eisteddfodol Cymru. Cyrchfa pobl fydd yn ystod wythnos yr eisteddfod, ac nid eu cartref; deuant iddi bob dydd wedi cysgu yn y Bala neu Ddolgellau, Dinbych a'r Rhyl, Llangollen a phentrefydd poblog ardaloedd Gwrecsam a'r Rhos. A mawr lwydd fo i'r Eisteddfod mewn cornel mor dawel.

Saif Corwen yng nghesail Berwyn, braidd yn rhy agos at ei galon i gael llawer o haul y bore. Ymddolena Dyfrdwy'n hamddenol o'i chwmpas, newydd dderbyn dyfroedd Alwen o froydd Hiraethog a thyrfa lafar o aberoedd llethrau'r Berwyn,—Caletwr a Cheidiog, Llynor a Thrystion. Y mae i'w bryniau a'i mynyddoedd hanes henafol, gŵyr y bugail am ffordd gam Helen a chaer Drewyn a llawer llecyn arall y mae traddodiad yn floesg wrth draethu am dano a hanes yn fud.

Ond y mae i Gorwen lawer o hanes sicr. Ar un adeg bu y lle pwysicaf yng Nghymru mewn ystyr filwrol. Yr oedd y brenin Seisnig galluog Harri'r Ail wedi gweled na ellid llethu Cymru trwy droedio'r hen ffordd y collwyd cymaint o waed ar hy-ddi. Ac felly, yn lle ymosod drachefn hyd ffordd y môr, a chroesi afon Gonwy ger ei haber, a threiddio i gadarnleoedd Eryri a hyfryd feysydd Môn, breuddwydiodd am ffordd arall. Yr oedd honno yn ei arwain dros y Berwyn i ddyffryn Edeyrnion, ac oddiyno hyd wlad gymharol hawdd ei thramwy i flaenau Conwy ac at fylchau Arfon. Ac yng Nghorwen yr oedd Cymru i wynebu'r gelyn oedd yn bygwth ei darostwng a llethu ei rhyddid yn lân. Cynhulliad rhyfedd oedd yng Nghorwen saith gant a hanner o flynyddoedd yn ol i amddiffyn Cymru, Owen Gwynedd a Chadwaladr feibion