Tudalen:Yn y Wlad.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gruffydd ab Cynan a holl lu Gwynedd gyda hwynt, a'r arglwydd Rhys ab Gruffydd a holl Ddeheubarth gydag ef, Owen Cyfeiliog a Iorwerth Goch fab Meredydd a meibion Madog fab Meredydd holl Bowys gyda hwy, a deufab Madog fab Idnerth a gwŷr Hafren a Gwy. Ni fu cynt na hynny gynhulliad mor gyflawn o genedl y Cymry. Ond bydd un mwy a'i ragorach yn Eisteddfod Corwen yn 1919. A hyfryd yw meddwl y cyhoeddir, nid fod rhyfel, ond fod heddwch.

Ger Corwen yr oedd cartref Owen Glyndwr. Nid oes ond ychydig olion o'i lys; ond hyd yn ddiweddar iawn safai ger un o droadau'r Ddyfrdwy fwthyn prydferth ei gynllun oedd, y mae'n ddiameu, wedi ei godi yn ei amser ef. Ond er mor ychydig o ddim ar ffurf crair ac adeilad sydd i gofio am Owen Glyndwr, nid oes yr un Cymro wedi byw mor llawn a dilwgr yng nghof ei genedl ag ef.

Yn wythnos yr Eisteddfod bydd digon i'w wneud gyda'r canu a'r areithio a'r beirniadu, heb adael y babell ar y gwastadedd lle bydd y miloedd wedi ymgynnull. Ond y mae'n bosibl blino ar Eisteddfod hyd yn oed. Crwydra ambell un lethrau'r mynyddoedd, i weled y dyrfa o bell. Chwilia rhai am Gapel y Ddol, roddodd ei enw i un o donau J. D. Jones. Crwydra eraill i eglwys ddiaddoliad Llangar, lle y treuliai Edward Samuel ei amser rhwng y dafarn a chyfieithu llyfrau i'r Gymraeg, yn ol eglwyswr a gondemniai'r ddau waith, yn enwedig yr olaf. A rhai eraill ymhellach, yn ol y tywydd a'u nerth.

Gellir gweled rhai pethau diddorol heb droi o dref Corwen ei hun. Y mae carreg yn y fynwent elwid gan yr hen bobl yn Garreg y Big yn y Fach