Tudalen:Yn y Wlad.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Rewlyd. Ni fu cun saer maen arni erioed, ac ni chafodd do i'w diddosi. Ond y mae y garreg hynaf yn yr ardaloedd hyn. o gerrig sydd a hanes iddynt, ac yn un o'r rhai hynaf yng Nghymru i gyd. Eler i mewn trwy'r fynwent i borth gogleddol yr eglwys, ae edrycher ar fur y porth ar y llaw chwith, nid y tu mewn, ond y tu allan. Yno gwelwch garreg hirfain, bigfain, wedi ei gweithio fur y porth. Nid yw wedi ei naddu a'i thrwsio, ac y mae'n debig mai sefyll ar ei gwadn y byddai gynt i herio'r tywydd ers oesoedd maith. Y mae morter y dyddiau hyn, a cherrig bach cyffredin, yn gwasgu'n ddifoes ar ei hysgwyddau heddyw; ond y mae rhywbeth yn osgo a ffurf yr hen garreg a dyn sylw pawb. Unwaith bu, nid yn unig yn wrthrych sylw, ond yn wrthrych ofn addoliadol. Yr oedd perthynas agos rhyngddi a galluoedd ysbrydol; a phan sefydlwyd yr addoliad Cristionogol cyntaf yn yr ardal hon, ni chafwyd llecyn y gallai'r cenhadwr cyntaf gasglu ei ddychweledigion nes yr arweiniwyd ef trwy ryw ddull goruwchnaturiol i'r gornel dawel lle safai, a'r lle saif, y garreg hon. Ni wn a oedd ystryw rhyw hen bagan yn y nos yn rhwystro adeiladu mewn lleoedd eraill, ac ni wn a oedd Carreg y Big yn gysegredig i ryw hen dduw na feiddiai pagan ei ddigio, cyn ei chysegru i Grist. Ond hi safodd i ddangos cartref cyntaf y grefydd newydd.

Medr y daearegwr ddweyd pethau rhyfeddach na'r hanesydd am dani. Bu drwy ddau gyfnod rhyfedd cyn cyfnodau hanes. Bu unwaith mewn diluw llifeiriol o dân, ac mewn tân y ffurfiwyd hi; y mae ol y dwfr berwedig ddiangodd yn ager ohoni i'w weled eto fel creithiau arni. Darn o lafa wedi