Tudalen:Yn y Wlad.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond cadwyd y garreg hon yn gysegredig oherwydd rhyw gysylltiad a bywyd y gŵr mawr crefyddol feddyliodd am anibyniaeth Eglwys y Cymry ac am brifysgolion iddi.

Diweddar iawn yw hanes ymneilltuaeth yng Nghorwen; lle erlidgar fu. Ond bydd ambell Fethodist selog yn gofyn lle y ceisiwyd curo Charles o'r Bala pan yn ceisio sefydlu Ysgol Sul, lle y safodd John Jones of Edeyrn wrol wrth wal y fynwent i herio'r dorf, a pha rai o ffenestri'r Harp yw ffenestri hen oruwchystafell cychwyn yr achos. Ond odid na hola ambell Anibynnwr am lofft y Queen, lle y ffurfiwyd eglwys gan yr hen Fichael Jones. A daw Bedyddiwr a Wesleyad i ofyn am rywbeth enwog yn hanes eu henwad hwythau. A holer am yr Ysgol Sul; hwyrach mai ei hanes hi ydyw'r mwyaf diddorol oll.

Eisteddfod fawr fydd Eisteddfod Corwen eleni, ac nid fel yr eisteddfod fechan lewyrchus a defnyddiol a gynhelir yn y dref bob Awst. Y mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ddarluniad tarawiadol o undeb cenedl lenyddol, ond hwyrach nad yw ei gwerth fel moddion addysg yr hyn allasai fod. Ni chlyw y dorf anferth ond côr mawr neu seindorf bres erbyn hyn. Ni all y delyn fwyn a'r crwth hudol gystadlu a'r utgorn. Ni chlywir llais y llenor a'r bardd ond mewn rhyw gyfarfod adrannol; cânt hwy fwy o le yn yr eisteddfodau bychain.

Ond er hynny gedy eisteddfod fawr lwyddiannus arogl hyfryd ar ei hol. A bydd digon o ddefnydd ysbrydiaeth yr ardal yn eisteddfod eleni. Y mae dechreuad Cristionogaeth yn Edeyrnion yn rhy bell i anfon pererinion i gamu ar draws yr heol i weled Carreg y Big yn y Fach Rewlyd. Y mae