Tudalen:Yn y Wlad.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Owen Gwynedd bruddglwyfus ac Owen Cyfeiliog fwyn ei gân yn niwliog bell erbyn hyn. Ond y mae ysbryd Owen Glyndwr eto'n llenwi'r fro; y mae ei freuddwydion ym mywyd y rhai sy'n cynnal eisteddfodau Edeyrnion. Ac os hoffai'r Cymry gwlatgarol gael rhywbeth i freuddwydio am dano wrth fyned i Gorwen a thra'n aros yno, cofient y gallai fod Owen Glyndwr yn huno yn eglwys dawel Corwen, o fewn ergyd carreg i babell yr Eisteddfod.