Tudalen:Yn y Wlad.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIII
DROS FIGNEINT.

A oes rhywun teimlo ei fywyd yn faich? A oes rhywun wedi pryderu cymaint fel y mae wedi colli ei ynni, ac yn methu gwneud cynlluniau yn ei ddychymyg mwy? A ydyw ei liw wedi cilio oddiar fywyd iddo? A yw'r cwsg yn gwrthod dod y nos, a hoen y dydd? A yw cofio am ieuenctid wedi peidio bod yn ddedwyddwch, a henaint wedi dod yn beth i hiraethu am dano? A sychodd holl aberoedd cysur iddo, a fachludodd pob seren o'i wydd?

Os felly, aed dros Figneint. Ymwroled, a cherdded yr ugain milltir o gwm a gwaen a mynydd sydd rhwng y Bala a Ffestiniog. I ddechre erys ei feddwl yn drwm, a blina ei goesau, edifarha am iddo gychwyn, a diau yr ysgyrnyga yn ei feddwl arnaf finnau wrth gofio mai y fi roddodd gyngor iddo gychwyn. Ond yn araf, fel y mae awel y mynydd yn ei adnewyddu, daw tangnefedd i'w enaid, ac esmwythâd i'w feddwl blin; a bydd hoen adnewyddol ei ysbryd yn rhoi ystwythdra hyfryd a diflin i'w gorff. A chofia am danaf finnau fel cynghorydd gwerth gwrando arno. Ac nid yw hyn ond dechre. Y mae agos i hanner y ffordd dros fil o droedfeddi o uchter. A chwyd yr ysbryd gyda'r ffordd.

Dringwn i fyny rhiw'r coleg, a gwelwn gerflun Dr. Edwards, eistedd y diwinydd yn ei gader, fel yr arferai wneud yn ei ddosbarth, yn ein