Tudalen:Yn y Wlad.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YN Y WLAD.

——————

I,
Y PRIF-FFYRDD A'R CAEAU.

I GYMRO, anodd yw gwneud ei gartref mewn tref; plentyn y mynydd a'r môr a'r awyr lân agored yw ef. Deffry dyhead yn ei galon am y cwm a'r llyn a'r caeau, ac y mae swyn y breuddwyd hwnnw yn ei dynnu allan o drigfannau dynion yn ol i'w wlad ei hun. Ni dduir ei hawyr hi ond yn anaml iawn gan fwg trwm dinasoedd. Yno y mae milltiroedd rhwng pentre a phentre, ac yno y mae holl gyfrinion natur yn agored i'r hwn sydd yn dymuno eu gweled. Tynodd swyn y breuddwyd fi lawer gwaith; medrais ateb yr alwad ambell dro; dro arall nid oedd dim i'w wneud ond mwynhau y breuddwyd heb y sylwedd, breuddwydio am y mynydd heb deimlo ei awel, ac am y llynnoedd heb glywed murmur eu tonnau.

Ond mae y troeon y gallwyd troi y breuddwyd yn sylwedd yn goffadwriaeth fendigedig, ac er ceisio eu dwyn ger bron eraill yr wyf yn ysgrifennu yn awr. Ni wna cyffyrddiad â natur niwed yn y byd i neb, ac feallai y deffry y breuddwyd yn rhywrai, ac y cyfodant i geisio y swynion a'r cyfrinion eu hunain.

A wyddoch chwi rywbeth am ardal Ardudwy, heblaw a welsoch wrth ruthro trwodd yn y tren? Gwlad o fynyddoedd moelion, morfa llwyd, a