Tudalen:Yn y Wlad.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chloddiau cerrig a welsoch felly. Nid oes fawr o swyn ynddi. Ond rhwng y morfa a'r mynyddoedd mae ffriddoedd sydd ym mis Mehefin yn wyrdd gan redyn ac eithin, ac ym misoedd Awst a Medi yn goch a phorffor gan redyn gwywedig a grug llawn blodau. Yno y mae afon Ysgethin yn cychwyn ei gyrfa yn unigrwydd y mynydd. ac yn troelli drwy'r mynydd-dir hyd nes cyrraedd Bont Fadog. Yno mae y coed yn dechre tyfu o'i deutu, ac yno rywdro y taflodd hen saer bont garreg gre dros ei lli. Edrychwch yn ol am funud. Anodd yw cael golygfa yng Nghymru wylltach a mwy unig, er y ceir yn aml un fwy aruchel. Fel gwal ddiadlam mae'r Llethr a'r Llawllech yn sefyll yn noethlwm uwch y cwm lle mae Llyn Bodlyn a Llyn Erddyn, ac y mae eu creigiau duon yn disgyn yn syth i'r dyfroedd sydd yr un mor ddu islaw. Yn nes yma hefyd y mae Pen y Ddinas -craig ysgythrog ac ar ei phen adfeilion hen gaer sydd mor hen nes ymddangos cyn hyned a'r mynydd ei hun o'r bron. Yno bu brwydro gynt, ond pwy fu yn brwydro nid oes neb a ŵyr. Mae tywyllwch yr oesoedd wedi gorchuddio eu hanes, ac nid oes gymaint ag un pelydr o draddodiad i oleuo y caddug.

Uwch ei phen cyfyd y Moelfre. Saif ar ben ei hun, yn dalgry a chrwn, a gwyrddlesni y glaswellt cwta i'w weled o'i droed hyd ei goryn. Ar finos. glir, dawel, mae'r defaid i'w gweled yn pori ar ei ael, a daw chwibaniad y bugail i'ch clust drwy'r awyr deneu. Ond arwydd glaw yw hynny, medd trigolion y Dyffryn. Er mor unig yr olygfa, mae yma rywbeth sydd bob amser yn gwneud i mi feddwl am henafiaeth heblaw henafiaeth