Tudalen:Yn y Wlad.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

natur. Mae hud a lledrith traddodiad ar y fro. Nis gwn am ddim arbennig, ond eto mae yno,—rhyw ymdeimlad fod ysbrydion hen oesau gynt yn cerdded y ffordd hyn, a bod grug y mynydd yn goch gan eu gwaed. Breuddwyd? Ie, ond mae bywyd yn anfarwol, ac ni wyddom pa hyd y pery ei ddylanwadau.

Ond trown at yr afon fin yr hwyr. Mae hi yn rhedeg o dan y bont, ac yn y man mae yng nghysgod trwm coed Cors y Gedol. Mae'r llwybr yn codi, heibio i hen fwthyn adfeiliedig ar ochr y bryn, a choed tal, tewfrig yn ei gysgodi. Aelwyd glyd a thân llawen fu yma, ond y mae pob ystafell yn agored i'r gwynt a'r glaw ers llawer blwyddyn. Mae y cyrn yn uchel, a'r cerrig wedi eu gosod yn bigau ar eu pen. Ar y to y mae'r mwsogl yn tyfu, a'r rhedyn bach yn tyfu o hono yntau. Ac i orffen y darlun, yng nghanol y dalen poethion a'r dail tafol y mae cafn mochyn carreg, fydd yma ymhell ar ol i'r hen furddyn fyned yn domen ac yn angof llwyr.

Mae awel yr hwyrnos yn sibrwd yn nail y coed. Ond ychydig gamrau eto yr ydym yng ngolwg y ffridd, ac mae'r coed yn myned yn deneuach. Ym mhell yn y dibyn oddi tanom y mae yr afon yn brochi, ac y mae ein llwybr fel ceulan uwch y lli. Bu yma dymestl fawr rywdro, canys y mae rhaeadr o gerrig mawr yn gordoi y llethr, a gelwir hwy hyd y dydd hwn yn Uffern Gerrig. Paham? Nis gwn, ond gwn nad oedd yr hen bobl yn arfer rhoddi enwau ar leoedd heb i'r lleoedd fod yn eu haeddu; ac yn ddiameu bu y fan hyn yn uffern i ryw un—ryw dro.