Tudalen:Yn y Wlad.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y ffridd mae'r awel yn chware; mae iachusrwydd y mynydd ynddi a glanweithdra y mynydd ym mhob peth. Draw acw mae'r môr yn ymestyn o fau y Traeth Mawr, ar hyd glannau Lleyn ac Eifionnydd hyd bentir Penfro yn y De. Nid yw hwnnw ond aneglur, a rhwng y ddau dir mae'r don yn chware, ac mae'r gwynt yn dyfod trosti o'r Iwerddon draw. Môr unig yw hwn, heb fad, heb hwyl. Cof gennyf, flynyddau yn ol, ei wylio edrych a ddeuai un long i'r golwg yn rhywle. Ac feallai, ambell ddiwrnod, y gwelwn hwyl ar y gorwel, yn agoshau at Enlli. Yn araf, araf, deuai yn nes, llong fechan ar ei thaith i Borthmadog. Tarawai yr haul ar ei hwyliau gwynion. Gwnai fy mreuddwyd innau hi yn llong oedd yn cyrraedd adref o ryw wlad y dyheuwn am dani, o ryw ynys werdd yn y Tawelfor, o ryw gilfach lechwraidd ar ganolfor Ysbaen lle'r oedd môr ladron yn eu llongau hirddu, a thrysor cuddiedig, ac anturiaethau diri. Hithau yn flin a lluddedig wedi dianc rhag yr holl beryglon, yn hwylio yn araf i'r porthladd yn ol. Ond unig a gwag yw y môr hwn gan amlaf.

Dyna un olygfa ag y myn meddwl ehedeg yn ol ati lawer diwrnod, ond y mae lle i fwy nag un; ac y mae'r breuddwyd yn amrywio fel y bo'r nwyd. Draw dros feysydd tawel undonnog Môn mae pen mynydd y Wylfa yn ymgodi uwch y môr. Yno y mae Cemaes, fel hen bentre mewn darlun, ar lan y môr. Wrth gerdded hyd ymyl y clogwyn at eglwys Llanbadrig gallwch weled y pentre yn codi ris uwch ris o lan y dŵr, y bryn tu cefn i'r tai bychain gwynion, ac ar ben y bryn yr hen felin wynt yn estyn ei breichiau yn erbyn yr awyr glir. Bu natur yn garedig wrth Gemaes. Nid yw y môr