Tudalen:Yn y Wlad.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn cael chwyddo ei donnau cryfaf yn ei erbyn; yn hytrach mae fel llyn crwn wedi ei gloi i mewn gan dir, gydag un agoriad, a thrwyddo, ar ddiwrnod hafaidd, gellir gweld ar y gorwel fynyddoedd gleision ynys Manaw. Lle tasel yn edrych ymhell yw Cemaes.

Ni anghofiaf fyth fy ngolwg gyntaf ar y lle wrth ddyfod o Amlwch. Diwedd mis Mai oedd hi, ac nid oedd dim ond eithin, eithin yn llawn blodau, ym mhob man. Yr oedd yr awel yn llwythog o arogl y blodau. Yr oedd pob bwthyn bach gwyn fel pe yn ymguddio mewn eithin. Yr oedd gwynt glân y môr i'w deimlo hefyd. Edrychai pob peth fel pe bai gwynt y môr yn eu glanhau. Ac yna, o ben y golwg, dacw'r môr, môr diderfyn. Ni welwch mo Gemaes nes yn ei ymyl, ond aew mae clogwyn y Wylfa, a'r felin wynt, a melin Mechell ymhellach yn y wlad. I mi yr oeddwn fel pe yn myned i wlad hollol ddieithr, pell o Gymru. Pleser nid bychan yw disgyn wrth ddrws y llety mewn lle felly, ac ar ol cael bwyd myned allan am dro, gyda'r hwyr, i weled ansawdd y wlad. Y ffordd wen, hir, y tai hen flasiwn, y cei a'r cychod pysgota; y ffermydd a'u cloddiau a'u buarthau wedi eu gwyngalchu, y meysydd yn dechre blaguro, a'r môr fel gwregys lâs-nid peth i'w anghofio yn hawdd yw hyn.

Os mynnwch, treuliwch y diwrnod ar ben y clogwyni i edrych ar y môr. Nid môr unig yw hwn. Os yn dawel mae mŵg agerlongau mwya'r byd yn gorwedd yn darth ar y gorwel gydol y dydd. Daw y rhai lleiaf yn agos at y lan, clywch eu "chunk chunk," yn dyfod heibio i drwyn Cemlyn, ac yn y man y maent gyferbyn a chwi, bron odditanoch.