Tudalen:Yn y Wlad.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Gallwch waeddi ar y dynion sydd ar y bwrdd. Ambell dro daw llong hwyliau heibio, yn ymlwybro yn erbyn y gwynt. Clywch ei rhaffau yn rhygnu a'r gwynt yn clecian ei hwyliau, a llais y llongwr wrth y llyw. Mae y rhai hyn yn gyfarwydd a'r llwybr, meiddiant ddyfod yn agos iawn i'r creigiau daneddog, er mwyn ysgoi nerth y llanw. Ymhellach draw mae'r llongau mawr ar eu ffordd i'r America, ac i bedwar cwr byd. Myned yn eofn mae y rhain, fel pe bai'r môr wedi ei wneud iddynt hwy, heb edrych i'r naill ochr na'r llall, ac yn chwythu yn awdurdodol os daw rhywbeth llai ar draws eu llwybr. Draw hefyd mae craig wen y Skerries a'i goleudy unig.

Arhoswch yma nes i'r haul fyned i lawr dros y tonnau. Foment yn ol yr oedd popeth yn llon yn y goleuni, disgleirdeb ar y môr, a gwyrddlesni ar y meysydd. Yn awr mae'r awyr yn oeri, mae'r môr yn duo ac yn cynddeiriogi, y mae'r gogoniant wedi cilio oddiar y meysydd. Mae'r gwynt yn oerach. Mae cân y don ger troed y graig ddaneddog yn troi yn rhu trymllyd, bygythiol. Mae'r haul wedi myned. Cyn pen hir bydd goleuni y Skerries yn fflachio draws awyr fel mellten welw, ac a'r llongau heibio fel trychiolaethau yn y tarth.

Pan oeddwn i yng Nghemaes yr oedd briallu yn dryfrith ym mhob cilfach a phant. Oddeutu'r ffrwd fechan redai i lawr i gilfach y gro ar lan y môr yr oeddynt hwy yn serenu. Gwelid hwy dan gysgod twmpathau'r eithin ac yn tyfu ar lanerchi tywodlyd lle 'roedd y gwningod yn chware. Melynent wyneb ambell geulan uwch y lli. Felly, i'm cof i, gwlad dlws yw Cemaes, gwlad dawel, lle ni phrysura bywyd. Gwlad y briallu a'r eithin