Tudalen:Yn y Wlad.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

blodeuog, arogl y môr a sŵn ei donnau, meysydd llawn gwair a blodau, amaethdai clyd, tawel.

Ond os dringwch i ben un o fryniau lleiaf Môn gwelwch draw fynyddoedd gleision Arfon, aruthredd eu clogwyni a'u cymoedd yn ymgolli yn y tês sydd rhyngoch â hwy. Yno, wrth droed y Wyddfa o'r bron y mae Capel Curig, mangre yng nghysgod y mynyddoedd yn bell bell o sŵn a thwrf y byd, a reolir gan beiriannau a rheilffyrdd. Cerddwch hyd y ffordd, heibio i'r hen eglwys yn y coed nes dyfod i ben y bryn bychan ac i olwg y llynnoedd. Nid hawdd anghofio'r olygfa. Nid oes undyn anystyriol wedi llenwi y rhain à cherrig a rwbel fel yn Llanberis, ond ymestynant yn loyw ac yn dawel dan wên haul a chyffyrddiad awel, a delweddant y Wyddfa yn eu dyfnder. Cyfyd bryniau a chreigiau oddeutu iddynt, ac mewn ambell i fan mae gweirgloddiau gwyrddlas yn cyffwrdd eu glannau. Cân y gog yma yn y gwanwyn o fore glâs tan nos, a'i llais hi a brefiad y ddafad yn unig sydd yn torri ar y distawrwydd.

Tawelwch a chadernid y mynydd yw ei swyn pennaf, tawelwch sydd yr un ar ol yr ystorm ac o'i blaen, cadernid sydd yn rhoddi cadernid hefyd i ysbryd cynhyrfus dyn. Er fod coffadwriaeth y rhai fu farw dros ryddid Cymru yn agos iawn atoch ym mroydd Eryri lleddfir y boen gan y tawelwch, a chynyrchir gobaith am bethau gwell.

Yma y mae cartref rhamant y Cymro. Bron nad yw sŵn y gwynt yn y cymoedd fel adlais utgorn hela Llywelyn, a murmur y don ar y gro fel murmur y don gynt lle'r ymadawodd Arthur. Nid rhyfedd fod Cymry yn glynu wrth eu