Tudalen:Yn y Wlad.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

traddodiadau, mae traddodiadau yn byw o'n hamgylch yng nghymoedd y mynyddoedd ac wrth lannau'r llynnoedd.

Ail i Gapel Curig yw Llyn Cwellyn yr ochr arall i'r Wyddfa, a chydradd a hwythau yw Bwlch y Tyddiad a Llyn Cwmbychan yn Ardudwy. Pell yw y fan honno hefyd o sŵn y byd, a phan bydd y gaeaf yn teyrnasu ni ddaw estron yn agos. Nid oes yno ond un amaethdy ar lan y llyn dan gysgod y mynyddoedd, a'r adeg y gwelir fwyaf o bobl yno yw adeg hel llus. Ar y Rhinogydd, y Fawr a'r Fach, y ceir y cynhaeaf mwyaf toreithiog, a daw pobl y pentrefi i fyny yn yr adeg i dreulio y dydd i'w hel. Ond y mae rhai cilfachau ar y Rhinog nad ant hwythau iddynt ond yn dra anaml. Cof gennyf rai blynyddoedd yn ol i was ffarm golli ei ffordd yn y nos wrth geisio croesi y mynydd o'r Bont Ddu i Gwm Nantcol. Methodd ei lwybr ar ol dyfod trwy Fwlch y Rhiwgur, ac yn lle croesi Sarnau Gwyr y Cwm crwydrodd filltiroedd o'i ffordd yn uwch i fyny ar y mynydd.

Gwybyddwyd ei golli; ond gan mai creadur erwydrol oedd, ni wnaed rhyw lawer o stwr, ni chwiliwyd yn fanwl am dano. Credwyd ei fod wedi myned i'r America, ac anghofiwyd ef.

Ym mhen ryw bedwar mis neu bump ar ol hyn daeth amser hel llus, a threiddiodd cwmni mwy anturiaethus na'r cyffredin i rai o gymoedd mwyaf anghysbell y Rhinog. Cyrhaeddasant at Lyn Hywel, llyn sydd wedi ei amgylchynu o'r bron â chlogwyni serth. Anaml y daw bugeiliad hyd yn oed ato, mor bell ac mor neilltuedig ydyw. Aeth y cwmni i lawr at y dŵr, a'r peth cyntaf a welsant, yn gorwedd yn ymyl y lan, oedd corff y dyn a gollwyd ers pedwar