Tudalen:Yn y Wlad.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mis neu ragor. "'Dase fo'n gi Mr.——," meddai ei fam wrth yr heddgeidwad wedyn, gan enwi un o ddynion cyfoethocaf y plwyf, "mi fasech wedi cael hyd iddo ers talwm.' Nid dyma'r unig un o bethau prudd y mynydd; mae aml i stori dywyll am ei niwl a'i glogwyni, ac aml i fywyd wedi myned yn aberth iddo ef.

Gwelaf fy mod wedi crwydro 'mhell oddiwrth ddechre fy ysgrif, ac mae'n rhaid i mi dynnu at y terfyn. Fy amcan oedd ceisio rhoddi mynegiant i'r swyn sydd gan natur wyllt a'i phrydferthwch i ni fel cenedl. Credaf mai pobl y wlad ydym, trefi bychain yw ein trefi ni ym mhob man ond lle mae dylanwad y Saeson masnachol wedi gor-bwyso dylanwad y Celt, ac y mae awydd am y wlad yng nghalon pob gwir Gymro. Nid wyf yn proffesu gwybod fawr am feddwl y Sais, ond ymddengys i mi mai hiraethu y bydd ef am drefi neu ynte wledydd lle y caiff ddigon o helwriaeth a byw bywyd di—ddeddf. Rhoddodd Kipling eitha mynegiant iddo,—

"Ship me somewhere east of Suez,
Where the best is like the worst,
Where there ain't no Ten Commandments,
And a man can raise a thirst.

Ond mae golwg ar fynyddoedd ei wlad yn y pellter yn deffro hiraeth yng nghalon y Cymro am mai Cymru yw, pe na bai ganddo gâr na chyfaill o fewn i'w goror; y mae yn ei charu er ei mwyn ei hun fel y carai Goronwy Fôn. Pa le bynnag y bo mae rhyw sibrwd yn ei galon yn dweyd,—

"Cymru fach i mi—
Bro y llus a'r llynnoedd,
Corlan y mynyddoedd,
Hawdd ei charu hi."