Tudalen:Yn y Wlad.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fontenegriaid. Ar un llaw yr oedd teulu o geirw, ac ar yr ochr arall o ewigod. Ac yr oedd dail y coed fel pe bai arian ac aur wedi eu tywallt yn gawodydd ar y fro.

Disgynnais i lawr ar hyd ffordd serth, gan basio ambell fugail â'i air serchog ac ambell drol wlan yn cludo prif gyfoeth y wlad, nid i felinau Dolgellau fel cynt, ond i'w yrru i drefi pell. Trwy'r coed tal main cawn ambell olwg ar Gwm Blaen Glyn, fel gwlad dlos a'i gorchudd ar ei hwyneb. Cyn hir daethum i lawr at afon Pabi, a'i melin durn yn segur a distaw, gwelwn Borth yr Eog ar y dde, ac ar y bryncyn o'm blaen safai pentref bychan tlws Llanfachreth.

Y peth amlycaf ynddo ydyw'r eglwys, gyda'i thŵr ysgwar, a'i safiad yn brydferth ar fryn. Ynddi gorwedd llwch Rhys Jones y Blaenau. Y mae'r fynwent ar lethr yr un bryn. Ar ben y bryn, yn ymyl yr eglwys, y mae Fychaniaid Nannau'n huno. Yn eu mysg y mae'r Syr Robert Fychan gododd dros ddeng milltir a thrigain o waliau, o amgylch tir ei deulu a thir a amgaeodd. Am hwn, pan ddeallodd yn wir mai efe oedd y gŵr a'i helpodd i godi pwn ar ei geffyl, y dywedodd un o'i denantiaid,—"Yr argian fawr! 'Roeddwn i 'n meddwl mai dyn oeddych." Yn is i lawr, ac o gwmpas y teulu, y mae gweision Nannau, y gwas a ryddhawyd oddiwrth ei feistr. Yn is i lawr wedyn, hyd at fin y ffrwd, gorwedd tenantiaid Nannau, gwŷr bucheddol a chydwybodol wrth erlid ac wrth gredu yr hyn a erlidiasant, fu mewn penbleth lawer tro rhwng ofn Syr Robert ac ofn Un mwy nag efe. Yr ochr arall i'r ffordd,