Tudalen:Yn y Wlad.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn eu ceubrenni. Hwy gododd y muriau, y pyrth, yr amaethdai a'r bythynod o ffurf a llun wrth fodd arlunydd. Erys y parciau ceirw hefyd,—a hudir y meddwl yn ol i adeg eang yr hen dywysogion Cymreig. Ac ar hydref fel hyn, y mae popeth fel pe'n cyd-heneiddio mewn henaint urddasol a thlws.

Dan sylwi a meddwl cyrhaeddais lannerch hyfryd gysgodol. Yr oedd y coed o'm cwmpas yng ngogoniant eu lliwiau, y gwyrdd yn prysur droi'n goch tanbaid neu'n felyn fflam. Yr oedd urddas y derw, er cynifer oedd wedi crino, yn rhoi gwedd rhyw dawelwch cadarn ar y fro. Codai'r rhedyn Mair tal i fyny mor uchel fel y tybiech y cystadlai à phalmwydd gwledydd mwy heulog mewn harddwch. Yr oedd mwsogl yn addurno'r muriau a'r pyrth. Gwenai mafon duon diweddar, wedi i'r rhew eu harbed, ar y gwrychoedd; a disgleiriai'r blodau taranau coch ym môn y llwyni; fel pe'n dangos na fedrai'r gaeaf sangu mewn cilfach mor glyd a chynnes a hon. Ar y chwith arweiniai llwybr drwy'r coed i Faes y Bryner, ar y dde yr oedd parc ceirw eang.

Ymlaen, uwch ben y ffordd, codai clogwyn grugog yn uchel i fyny. Un o ysgwyddau Moel Offrwm yw.

Toc daethum at y ffordd sy'n troi at blas Nannau. Y mae golwg hyfryd a hynafol ar bopeth; ac y mae atgofion llenyddol lu'n dod, o'r amser y bu Sion Dafydd Las fynych edifeiriol yn canu clodydd y teulu, i'r amser y bu Glasynys yn lloffa traddodiadau'r fro. Ar y ffordd at y tŷ yr oedd tyrfa o pheasants heirdd hirgoes, fel gwarchodlu o