Tudalen:Yn y Wlad.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II

Y GLYNNOEDD AUR

BETH sydd yn debig i rwysg yr haf wrth ymadael o'r glynnoedd? Nid yw rhwysg brenhines wrth adael ystafell wledd pennau coronog ond megis dim wrth ei ysblander. Os mynnech ei weled, ewch i gymoedd Dolgellau pan fo'r Hydref yn cochi ac yn melynu'r dail a Thachwedd yn eu gwasgar, yn gawodydd euraidd, ar y llawr.

Gadewais Ddolgellau ar fore mwyn yn niwedd yr hydref diweddaf, croesais y bont hir dros afon Wnion, a throais ar y dde hyd ffordd y Bala. Pan uwchlaw'r Llwyn, cartref y Barwn Owen laddwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy gynt, cymerais ffordd serth ar y chwith, oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn cyfeirio i Lanfachreth. Temtid fi beunydd i edrych yn ol ar ogoniant dyffryn Mawddach odditanaf ac ar hafanau Cader Idris y tu hwnt.

Ond o'r diwedd syrthiodd cyfaredd y ffordd o'm hamgylch ar fy ysbryd. Yr oedd natur yma yn ei swyn gwyllt, wedi cadw pethau prydferthaf yr hen goedwigoedd, oherwydd fod y wlad yn greigiog a rhedynog ac oherwydd fod hen deulu yn byw ynddi a'i fryd ar gadw'r hen ddull yn fyw. Teulu Nannau yw'r teulu, ac y mae'r plas yn rhywle yn y coed o'm blaen. Hwy sy'n gadael i'r hen dderw llydanfrig dyfu hyd nes yr elo'u boncyffion yn wag; y mae digon o hen dderw i Owen Glyndwr guddio pob Hywel Sele trwy Gymru