Tudalen:Yn y Wlad.pdf/30

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

III

LLANELWEDD

AR gyfnos yn yr haf, cefais fy hun yn Llanfairmuallt. Bum yn crwydro orig ar drumau'r twmpathau gleision,—yr oll sy'n aros o'r castell hardd y denwyd Llywelyn ato pan oedd haul anibyniaeth Cymru eto heb fachlud. Yr oedd yn ddiwrnod ffair; llenwid yr heolydd â hoglanciau hanner meddw, a'u bryd ar dynnu ysgwrs ynfyd â'r dyn 'dieithr prudd a blinedig. Ac ar y llecyn glas hyfryd sydd ar lan afon Gwy nid oedd nodded; yr oedd yno saethu, ac ymsiglo, a merry go round i sŵn byddarol peiriant. O'i gymharu â sŵn y peiriant hwn, buasai ffrae rhwng brain a moch yn gerddoriaeth.

Trois fy llygaid hiraethus at y bont hir sy'n croesi afon Gwy, ac yn arwain o sir Frycheiniog,— oherwydd ar ymyl y sir y saif Llanfairmuallt,—[1] sir Faesyfed. A thraw, ar y dde, gwelwn eglwys yn sefyll, yn dlos ac yn dawel, ar fin yr afon ddolennog. Mi gerddaf tuag acw," ebe fi wrthyf fy hun, feallai fod hanes rhyw hen bererin wedi ei gerfio ar garreg acw yn Gymraeg, ac y caf ryw gipolwg ar fywyd Maesyfed cyn iddi newid ei hiaith."

Cerddais yn araf dros y bont, ac hyd y ffordd wastad, nes cyrraedd mur y fynwent. Yr oedd y ffordd yn llychlyd a'r awyr yn llethol; ond yr oedd arogl hyfryd y gwair meillionog, oedd newydd

ei ladd yn y caeau oddiamgylch, yn llenwi'r wlad.

  1. O'r gair Buallt y daw'r enw Seisnig Builth. "Bilt" y swnnir ef yn sir Faesyfed.