Tudalen:Yn y Wlad.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Sefais ennyd, yno ar fin y ffordd, ger y mur, i weld pobl Maesyfed yn mynd adre o'r flair. Dacw un yn dod ar ferlyn hoyw, ar garlam wyllt hyd y ffordd wen hir. Tra mae'r ceffyl yn mynd ymlaen ar garlam, y mae'r gyrrwr yn hercian o ochr i ochr, a'r syndod yw, sut y mae'n medru cadw heb syrthio? Golygfa ddigrifol i'r eithaf, oni bai fod arnoch ofn gweld ei hyrddio i dragwyddoldeb bob munud, yw gweld dyn meddw'n ceisio ymdaro ar gefn march carlamus. Prin yr oedd o'r golwg na welwn ddau lencyn yn dod, pob un ar ei geffyl haearn, a'u pennau'n rhy drymion i fedru cadw eu lle ond drwy gydio yn ei gilydd, a phwyso y naill yn erbyn y llall. Pe digwyddai ffrae godi, nid aent adre y noson honno. Ar eu holau dacw res o fechgyn yn dod, yn llond y ffordd. a'u traed afrosgo yn codi cwmwl o lwch i'w dilyn. Yn y pant draw ni welaf ond eu pennau, yn codi ac yn gostwng fel cyrc ar donnau. Och o'u haraeth! Yr oeddynt yn tyngu ac yn rhegu'n echrydus; ond distawasant beth, er coched eu hwynebau gan ddiod, wrth fy mhasio i a'r fynwent. Ni ddychrynnodd eu rhegfeydd fi; ond tarawodd. peth arall fi ag arswyd. Draw, o ael y bryn, clywn eu lleisiau bloesg, mewn cymysgfa anhyfryd yn y gwyll, yn nadganu,—

"Lead, kindly light, amidst the encircling gloom,
Lead Thou me on."

Nid oedd arnaf awydd am weled ychwaneg o wyr byw Maesyfed y noson honno; a throais fy llygaid at orweddle'r marw distaw yr ochr arall i'r mur. Yr oedd y glwyd yn gloedig, ac nid oedd dŷ clochydd. yn y golwg. Yr oedd y persondy gerllaw, ond nid