Tudalen:Yn y Wlad.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd i mi gyfathrach â'r person, ac ni fynnwn flino dyn dieithr. Edrychais ar y wal; ni welais erioed wal mor fer. Edrychais ar fy nghoesau; ni sylweddolaswn erioed eu bod cyn hired. A fuasai'n iawn camu dros y mur? Tawelais fy nghydwybod trwy ei hysbysu y dylai pob mynwent ac eglwys fod yn agored, fel y maent ar y cyfandir, fel y medro'r myfyrgar a'r duwiolfrydig gael encilfan. Hwb a cham, a dyma fi drosodd. Ond, yr achlod fawr! Beth yw'r bwystfil sy'n ysgyrnygu arnaf? Ni welais beth hyllach erioed; a hanner feddyliais fod cabledd y llanciau meddwon wedi deffro un gŵn Annwn. Ond, wedi syllu arnaf am ennyd, distawodd y ci. Gwelodd fy mod yn debig i'r rhai defosiynol fyddai'n dod i'r eglwys ar y Sul, ac nid yn debig i dramp llechwraidd gyrchai at gefn tŷ'r person yn y nos. Llonnodd ei lygaid, daeth peth harddwch i'w wep anaearol; a bu'n sefyll fel delw yn gwylio fy symudiadau, ac yr oedd yn amlwg yr edrychai arnaf fel ffrynd.

Mynwent hyfryd yw mynwent Llanelwedd. Dolenna afon Wy gyda'i hymyl, gan furmur a sisial ar unwaith—nid oes daw ar felys ddwndwr y dŵr wrth fynd heibio. Draw, dros yr afon, cyfyd panorama ardderchog o fynyddoedd sir Frycheiniog, a Llanfairmuallt yn nythu wrth eu traed, i'w gweled oddiyma dros drofa brydferth yng nghwrs yr afon. Y tu cefn ymgyfyd bryniau Maesyfed yn serth, a'u llechweddau'n gartref rhedyn ac ysgaw. Mae arogl y gwair, dwndwr yr afon, distawrwydd y mynyddoedd pell a'r marw agos, yn gwneud y fynwent yn gartrefle myfyrdod a hedd.

Crwydrais ymysg y beddau, ond ni chefais air O Gymraeg,—bennill nac adnod. Ni welais