feddargraff Cymraeg yn sir Faesyfed eto. Gwelais un Groeg ar feddrod athrawes fu farw'n ieuanc, adnod briodol, yn meddu mwy o fiwsig yn Gymraeg nag yn y gwreiddiol,—"Gwyn eu byd y rhai pur o galon, canys hwy a welant Dduw." Nid oedd sir Faesyfed wedi ymseisnigo cyn teimlo peth o'r diwygiad a'r dadeni; rhaid i mi chwilio mynwentydd eraill.
Ond y mae aml enw lle Cymraeg ar y cerrig, Goetre, Maes Pengoch, Noyadd Fach, Neuadd, Cwm Bach. "Penbenkin,"—dyna ddechre Seisnigo; "Cwmshepherd,"—dyna waeth.
Dyma feddrod hen deulu o uchelwyr fu gynt yn meddu Abaty Cwm Hir. A beth yw'r garreg yma a'r llun arni? Llun merch yn gorwedd fel mewn hûn ydyw, ac angel yn codi ar edyn ysgafn oddiwrthi. Methwn beidio credu i mi weled y llun o'r blaen, er na fum erioed yn y fynwent hon cyn heno. O'r diwedd cofiais ei fod yr un fath yn union a "Breuddwyd Olaf" Joseph Edwards. Dyma sydd ar y garreg.—
THY WILL BE DONE
SACRED
TO THE MEMORY OF
ANNA.
I WILL ARISE AND GO
TO MY FATHER."
This tablet was erected
by one who knew her worth.
Gymaint y mae'r garreg yn awgrymu, ac mor ychydig mae'n ddweyd. Rhyw hanner ddatguddio ei chyfrinach yr oedd pob carreg; a gadewais y fynwent hyfryd a'm meddwl yn llawn o gwestiynau na allwn eu hateb.
Drannoeth, dydd heulog tyner, tarewais ar berson Llanelwedd. Cefais ef yn Gymro aiddgar