Tudalen:Yn y Wlad.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac yn hanesydd ymchwilgar a medrus. A danododd fy nghydwybod i mi mai hi oedd yn iawn, ac na ddylaswn fod wedi hanner lechu yng nghysgod yr ywen, oedd rhyngof a ffenestr y person, wrth gamu tros y mur. Nid oeddwn wedi sylweddoli. hyd y munud hwnnw, fy mod wedi gwneud hyn. Addefais y trosedd wrth y person, gan gynnil awgrymu y dylai'r glwyd fod yn agored. Dywedodd yntau i'r fynwent a'r eglwys fod yn agored am ddwy flynedd. Ryw nawn tesog aeth Fandaliaid yno, a gadawsant fwg halog eu tybaco i lenwi'r eglwys. Ni oddefai'r plwyfolion i'r eglwys fod yn agored mwy. A phwy all eu beio?

C'efais ramant bywyd Anna hefyd. Flynyddoedd yn ol syrthiodd bachgen o deulu cyfoethog mewn cariad a geneth dlawd. Gwnaed cyfamod cariad rhyngddynt. Pan glywodd tad y bachgen, ffromodd yn aruthr, a dywedodd y di-etifeddai ef oni roddai yr eneth brydferth i fyny. Adroddodd yntau ei helynt wrth yr eneth; ac, er ei fwyn ef ac er ei waethaf, mynnodd hithau ei ryddhau o'i addewid.

Aeth blynyddoedd heibio. Daeth ef yn ŵr enwog, a phriododd; arhosodd hithau'n eneth dlawd. Ar ryw neges, ymhell o'i bro, digwyddodd hi fod yn teithio drwy Faesyfed. Pan yn ymyl Llanelwedd bu farw'n sydyn ar y ffordd, o glefyd y galon. Ac yma y claddwyd hi, ymysg pobl o Faesyfed, pobl garedig, naturiol, a rhadlon; er fod ganddynt ambell goll.

Ymhen blynyddoedd wedyn, daeth yr eneth aberthodd ei hun er ei fwyn, i gof y gŵr enwog, ac efe erbyn hyn a phlant wedi priodi. Holodd am dani. Daeth yma i weled ei bedd; ac efe osododd y garreg y bum yn syllu arni neithiwr.