Tudalen:Yn y Wlad.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

awr neu ddwy o henaint llwyd a gwyw, a difyr oedd toddi i'm hieuenctid yn ol wrth dân a chroeso hyfryd Aberaeron.

Ond y tro hwn, daethum gyda'r tren o Lanbedr, pan oedd yr haf yn ieuanc a goludog ei liwiau. A hwyr tawel oedd hi. Rhedai'r plant o'r naill ffenestr i'r llall, i weled rhyw bentref diddorol y naill ochr, a chwm hyfryd yn ymagor ar yr ochr arall. Ymagorai Dyffryn Aeron, yn holl ysblander dwys prydferthwch ei brynhawn, fel y teithiai'r tren bach newydd yn ei flaen hyd fronnau'r fro; a gwnai Ceredigion i'w bryniau sefyll yn lwys a gwylaidd, fel rhes o blant, y tu ol iddo. Yr oedd pob gorsaf yn llawn o bobl ddifyr, yn enwedig hen bobl a gweision ffermydd, yn dod i "weld y tren"; oherwydd yr oedd y tren eto'n newydd. Codai pobl y pentrefydd a'r ffermdai eu dwylaw, ac ysgydwent eu cadachau, fel pe baent yn ein hadnabod ers blynyddau, ac fel pe baent wedi treulio oriau i'n disgwyl ni y diwrnod hwnnw. Teimlem ein bod yn cael cwmni ar hyd y ffordd. Y lle mwyaf unig y gwn i amdano yw mewn tren trwm, fydd yn chwyrnellu ymlaen am dair awr heb aros, hyd wlad wastad a phoblog. Y mae trigolion y wlad wedi ymgynefino âg ef; a gwyddoch nad oes neb o'r miloedd yn gwybod dim am danoch nag yn malio gwerth blewyn ynnoch. Y mae rhyw fath o unigrwydd yn brudd ac yn dwyn poen.

Dyma ni wedi cyrraedd gorsaf Aberaeron, meddir wrthym. Ond dyma unigrwydd o fath arall. Murmur yr afon yn ddedwydd heibio i ni, anadla awel ysgafn dros y gwair tonnog, sigla'r coed eu pennau trymion megis mewn cwsg. Gwlad yw i gyd.