Tudalen:Yn y Wlad.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ond sicrheir ni fod Aberaeron yn bod; ac wedi cerdded ennyd deuwn i un o'i gwestai cyfforddus, a chawn gipolwg ar ei heolydd bychain prysur, ar ei hysgwâr heddychol, ac ar ei phorthladd. Ac yna, yn araf a phenderfynol, gwneir cynllun, Mi arhosaf yn y lle hwn hyd nes y bydd raid i mi fynd oddiyma."

Y mae ffordd yn codi o'r pentref i gyfeiriad y de. Os gofynnwch i ble yr arwain y ffordd honno, esbonnir yn fanwl i chwi mai i Henfynyw y deuwch gyntaf os cerddwch heb droi ohoni am filltir go hir.

Cerddais yn araf i fyny hyd y ffordd. Yr oeddwn yn lled droi fy nghefn at y môr, ac yn cilio peth oddiwrtho; ond, wrth ddringo rhiw ar ol rhiw, cawn aml olwg ogoneddus ar eangder glas y môr ac ar y rhes o fryniau gwyrddion saif yn erchwyn tragwyddol iddo. Wrth edrych ar res o fynyddoedd yn sefyll ar lan y môr, a'r tonnau'n ymddryllio'n ewyn cynddeiriog ar eu godrau, a hwythau'n syllu'n dawel i'r nefoedd, ni fedraf feio y bardd a alwodd eu tebig yn "rhes ddwyfol o fynyddau."

Tan fwynhau golygfa ar ol golygfa, a rhyfeddu mor las oedd glas y môr ac mor wyrdd oedd gwyrdd y bryniau, daethum i bentref bychan iawn, ar ochr y ffordd, a ffordd seth yn torri ohono at eglwys. edrychai fel pe newydd ei hadeiladu. Yr oedd y tai yn lân fel yr aur, fel y mae tai bron bob amser ar lan y môr, y gwragedd yn ddiwyd, a'r plant yn llygadlon. Ie, hysbysid fi, honno oedd eglwys Henfynyw, ac yr oedd croeso i mi grwydro drwy ei mynwent eang.

Cedwir y fynwent yn ddestlus a glân, ac y mae serch tuag ati yn amlwg. Gofelir yn dda am y fynwent, fel rheol, os bydd llawer o rai ieuainc yn