Tudalen:Yn y Wlad.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gorwedd ynddi. Naturiol iawn yw hynny'; pan ysgerir rhai yn eu hieuenctid y mae'r ing yn fwy angerddol a'r hiraeth yn hwy ei barhad. Ni fedrwch dreulio hanner awr ym mynwent Henfynyw heb weled mai bedd y morwr sydd amlycaf ymysg ei beddau hi. Saif ar fryn uwchben y môr, ac yn ei olwg. Y mae'r môr megis yn ymdawelu wrth ddod ati, mewn euogrwydd neu mewn hedd. Aberth y môr yw llawer o'r rhai sy'n huno ynddi; aberth y môr hefyd yw mwy o'r rhai sy'n huno yn y dyfnderoedd, ond a chof am danynt ar y cerrig hyn. Buont feirw, rai yn ieuainc a rhai ym mlodau eu dyddiau, y llanc bywiog uchelgeisiol ar ei fordaith gyntaf, a'r capten cydnerth oedd yn gwneud ei fordaith olaf cyn ffarwelio â'r môr i dreulio ei ddyddiau i fwynhau enillion ei lafur. Wrth grwydro o fedd i fedd, y mae dychryn yn ein meddiannu; ni welsoch erioed fynwent a chynifer o'r rhai sydd ynddi wedi marw'n ddisyfyd ac anamserol. Y mae arnoch ofn edrych ar y garreg nesaf, y mae ias ar ol ias o gydymdeimlad chwerw yn mynd i'r galon wrth weled mai morwr sydd yn huno yno hefyd. O'r braidd na felltithiech y môr am ei raib a'i greulondeb. Ac wrth godi'ch llygaid dros furiau'r fynwent at ei wyneb mawr llydan, y mae fel pe'n cilwgu arnoch am galedu eich calon tuag ato, ac yn edrych yn frochus a bygythiol.

Dyma'r argaff sydd ar y garreg gyntaf dynnodd fy sylw,—

Er serchus gof
am
Capt. JOHN RICHARDS
o Lannon, yr hwn a gollodd ei
fywyd pan ar ei fordaith o Gloster
i Bilboa, Rhag. 12, 1874, yn 29 oed.