Tudalen:Yn y Wlad.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lleoedd mwyaf pell yw'r lleoedd y mae llu o drenau'n rhuo drwyddynt bob dydd heb aros ynddynt, mwy na phe baent heb fod. Ond am Aberaeron, ni fu erioed yn bell, rhoddai'r môr lwybr parod i bob man. Y noson honno, cefais ymgom ddifyr â chynrychiolwyr llenyddiaeth, addysg, cyfraith a masnach y cwmpasoedd; a'm syniad oedd nad oes dim newydd yn y byd nad yw Aberaeron wedi ei bwyso a'i chwilio. O'i fôr a'i fynydd, dalied i fagu ac i anfon i'r byd rai'n meddu cadernid cymeriad y mynydd ac ynni bywyd y môr.