Tudalen:Yn y Wlad.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

V.

PLU'R GWEUNYDD[1]

Ychydig sy'n cofio haf mor ogoneddus a'r haf sy'n awr yn cilio i fysg hen hafau ein bywyd.[2] Haf goludog heulog ar y mynyddoedd,—beth sy'n well darlun o'r nefoedd na hynny?

Yn ystod ei ddyddiau euraidd hyfryd, gwnaeth haf eleni un gymwynas neilltuol â mi. Gwnaeth Gymru oll yn brydferth i'm golwg. Cyn hynny, yr oedd un llecyn nad oeddwn wedi gweled ei brydferthwch. Yr oedd yn rhaid i mi fyned heibio iddo droeon bob blwyddyn, bodd neu anfodd. Deuai iasau oerion drwof wrth feddwl am dano. Eto nid oeddwn wedi cwyno wrth neb fod un llecyn, yng nghanol Cymru, mor hagr i'm llygaid fel yr ofnwn edrych ymlaen at yr adeg y byddai raid i mi fynd heibio. Yr oedd cyfeillion i mi'n mynd heibio'n amlach na mi; ond ni chlywais hwy'n cwyno erioed. Y mae un o hen ysgolion enwocaf Cymru'n edrych i lawr ar y llecyn gashawn, ond ni lethwyd athrylith ei hysgolheigion gan ddwyster trymaidd yr olygfa. Bu rhai o feirdd mwyaf melodaidd Cymru yn byw ar ei ymylon, ond ni ddistawyd eu hawen hwy ac ni

oerwyd eu gwladgarwch gan drem oerllyd y lle.

  1. Yr wyf yn gobeithio na themtia pennawd yr ysgrif hon yr un llysieuydd i'w darllen. Nis gwn, cyfaddefaf yn rhwydd, ai Eriophorum vaginatum ai Eriophorum polystachyum welais yn y pellter.
  2. Ym mis Gorffennaf 1911 yr ysgrifennwyd yr erthygl hon.