Tudalen:Yn y Wlad.pdf/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A dyma finnau'n teimlo'm gwaed yn fferru, a'm meddwl yn crebachu, a phob teimlad gwladgarol yn oeri, wrth fynd heibio. Cors goch glan Teifi oedd y fan.

O orsaf Ystrad Fflur i orsaf Tregaron rhed y ffordd haearn dros gyrrau neu hyd finion cors am dros bum milltir o ffordd. Ar y chwith, wrth deithio tua'r de. ceir y mynyddoedd eang.—Berwyn canolbarth Cymru, sy'n gwahanu dyffryn Teifi oddiwrth gymoedd uchaf Claerwen a Thowi, a'u hafnau mynyddig mwynion. Ar y dde gwelir llethrau'r Mynydd Bach, a'i ffermdai clyd ar y godrau a'r llechweddau, a'i hanes yn ddiddorol o'r amser y cerddai llengoedd Rhufain ei Sarn Helen hyd ddyddiau yr athrawon a'r beirdd a'r efengylwyr roddodd fri ar ei bentrefydd,—Lledrod, Bronnant, Blaen Pennal, Penuwch, a Llangeitho.

Ond rhwng y mynyddoedd hyn gorwedd y gors farw, oer. Ar ei gwastadedd hi ni thyf blodau gweirglodd a gwndwn Cymru. Yn ei mynwes leidiog ddu cyll aberoedd Cymru, eu dwndwr mwyn a'u purdeb grisialaidd; yn lle ymuno âg afon fordwyol neu gyrraedd môr heulog, collir golwg arnynt yn y gors hagr,—Marchnant a Glasffrwd a Fflur a Chamddwr a'u chwiorydd llawen. Nid oes ffordd yn ei thramwy; craffwch o'r tren, ac ni welwch lwybr ar ei thraws o Ystrad Meurig i Dregaron. Nid yw'n llyn ac nid yw'n ddôl; ond y mae'n llenwi lle fuasai'n llyn tlws neu'n ddôl brydferth, ac y mae wedi cyfuno ynddi ei hun bopeth sy'n anhardd mewn dŵr a thir, a dim sydd hardd. Y mae hen ffyrdd dynion fel pe'n gochel, ac y mae'r ffordd haearn yn myned heibio iddi gan ei hosgoi.