Tudalen:Yn y Wlad.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr oedd pob llecyn yng Nghymru yn awr yn brydferth i mi. A'r dydd hwnnw sylweddolais lawenydd y ddynol ryw pan welodd gyntaf dlysni hedd y mynydd, y rhostir, a'r môr. Yn llenyddiaeth Lloegr, beth bynnag, diweddar yw'r gwelediad hwn. Nid oes yn Shakespeare a Milton gydymdeimlad a mawredd y mynydd, ag eangder y rhostir maith, â bywyd diflino'r môr; edrychid arnynt fel pethau aruthr ac ofnadwy. Ond danghosodd Gray fawredd y mynyddoedd, a Cowper brydferthwch pruddglwyfus y tiroedd gwastad, a Collins swyn yr anialwch, a Byron ardderchowgrwydd y môr. phan ddanghosodd Wordsworth i'w genedl holl dlysni natur wyllt, daeth dyn i heddwch â'r hyn a ofnai gynt; a daeth i'w galon lawenydd fel y llawenydd hwnnw deimlais i pan ddanghosodd plu'r gweunydd imi brydferthwch y gors.

Cododd awydd arnaf am aros yn nyffrynnoedd Ceredigion, i lenwi f'enaid â thlysni. Crwydrais i lawr dyffryn Teifi, i weled ei bethau prydferthaf. Yr oedd y dŵr ddaethai heibio i blu'r gweunydd o'r gors yn glir fel y grisial, ac yr oedd dwndwr Teifi mor felys a chywyddau Dafydd ab Gwilym,—

"Teifi lân, man y ganwyd
Dafydd y prydydd, pur wyd;
Dy lif, y loywaf afon
Fal Dafydd y sydd yn son."

Y rhan fwyaf arbebig i gors Caron ar gwrs afon Teifi yw y dyffryn swynol o Landyssul i'r môr. Pe cychwynem yn hamddenol o Landyssul i lawr yr afon, caem olygfeydd digymar pan fo lliwiau'r haf ar y wlad. Yn Llandyssul daw cof am Wilym Marles, am ei fywyd egniol a'i awen leddf.