Tudalen:Yn y Wlad.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Newydd adael yr orsaf, aiff y tren drwy agorfa gul yn y mynydd, lle mae'r afon wedi torri llwybr trwy'r creigiau. Yna ymegyr o'n blaen ddyffryn coediog, goludog o wair ac yd. Yr oedd arogl y gwair yn persawru pob awel. Yr oedd yr amaethwyr wedi codi'n fore, ac yr oedd gwair caeau cyfaeon yn ei ystordiau, a chribiniau llanciau a morwynion yn eu prysur daenu. Wrth sychu, llenwid y wlad â sawr hyfryd y gwahanol ddail. Rhwng y lliwiau a'r peraroglau, hawdd oedd meddwl fod tlysni dyffryn Teifi'n berffaith. Buom yn ymdroi'n hir yng Nghastell Newydd Emlyn. Gwelsom y castell ar ei fryncyn, a'r afon yn troi o'i amgylch, a'i furiau cadarnaf, sef y rhai oedd yn wynebu'r gorllewin diamddiffyn, eto'n aros. Gwelsom y wennol yn llaw'r gwehydd diwyd, a'r brethyn cartref yn graddol ymestyn; mewn ychydig iawn o leoedd yng Nghymru'n awr y clywir sŵn y wennol hon. Gwelsom Drefhedyn, ar ochr sir Aberteifi i'r afon, lle bu'r argraffu cyntaf yng Nghymru. Gwelsom gapel y Parch. Evan Phillips, yr oeddym newydd weled cynulleidfa fawr Sasiwn y Bala yn foddfa o ddagrau wrth wrando ar ei lais mwyn yn rhoddi neges yr efengylydd yn null meddwl bardd. A chawsom gysgu yn sŵn dwndwr afon Teifi.

Yn blygeiniol iawn cychwynasom ar hyd y ffordd tua'r môr. Cyn hir daethom o goed i'r wlad agored. Ar y chwith i ni yr oedd ochrau sir Gaerfyrddin, cymoedd byrrion coediog, y llethrau oll yn llwythog o wair ac yd; a bryniau pell, oll dan lafur, y tu hwnt iddynt. Ond, er ardderchoced yw golygfeydd sir Gaer yn y pellter, y mae i'r dyffryn odditanom swynion mwy. Daethom i Genarth, lle mae'r afon yn dawnsio o graig i graig o gwm cul, a gwelsom