Tudalen:Yn y Wlad.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un o'r pentrefydd tlysaf yng Nghymru. Ond hyd yn oed yma gwelsom dai gweigion ac adfeiliedig, y mae'r bobl yn gadael hyd yn oed y lle paradwysaidd hwn. Wedi dilyn tro yn yr afon, daethom i olwg dyffryn cul hir, yn mynd ymhell i'r bryniau ar y chwith. Ynddo y mae enw Pontseli yn dod a Herber Evans i'r meddwl, pan oedd yn swyno gwlad wrth son am glod David Livingstone a Florence Nightingale yn mynd "hyd ymhell." Ac mae enw'r dyffryn.—Glyn Cuch.—yn dod ag un o'r mabinogion mwyaf swynol i'r cof. Onid yma y daeth Pwyll, ac onid oddiyma y cychwynnodd, "yn ieuenctid y dydd," i'r anturiaethau wna i'r ieuanc ddal ei anadl, hyd yn oed yn yr oes faterol hon, wrth ddarllen eu hanes? Ac y mae'r dolydd gleision, dros yr afon lonydd heddychlon, dan niwl teneu'r bore, yn lle y gallasem bron ddychmygu gweled y ddwy erchwys o gŵn hela yn cyfarfod ei gilydd. pan gyfarfyddodd Pwyll ac Arawn.

Fel mae'r haul yn gwasgaru'r niwl, mae hyfrydwch y dyffryn yn ymddadlennu. Y mae'r ffermdai gwyngalchog yn fflachio fel gemau o'u hymylwaith o goed gwyrddion. Y mae sir Benfro ar ein chwith yn awr. Dros yr afon a'r coed a'r caeau llechweddog gwelwn fynyddoedd tawel gleision, llwydion, pell. Dywedir wrthym ein bod yn gweld y Frenni Fawr dan haul y bore.

Os gofynnir enw'r eglwys sy'n sefyll mewn man mor hyfryd ar drofa'r afon draw, atebir mai Manor Deifi. Yn y fynwent acw y gorffwys Alun, y melusaf o feirdd Cymru, un yr oedd ei awen yn debig iawn i ysbryd y fro dyner a glwys hon.

Lle tlws iawn yw Llechryd, lle mae llawer cwrwgl ger yr afon lonydd, a phont yn croesi i Gilgeran.