Tudalen:Yn y Wlad.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Oddiyno mae'r ffordd yn sythach na'r afon. Dolenna'r afon yn hamddenol heibio i gastell Cilgeran, ceidw'r ffordd ei huniondeb hyd y tir uchel. Ar y llechwedd o'n blaen gwelwn laweroedd o dai gwynion ar lechweddau hyfryd. Llandudoch yw, y tu draw i'r afon. Yr ydym ninnau'n disgyn yn gyflym yn awr at yr afon eto. A dyma ni yn cyrraedd tref lân a phrydferth Aberteifi. Nid oes gennyf eiriau i ddarlunio golud tlysni dyffryn Teifi. Ond er teced yw bronnydd Llandyssul, er maint swyn Castell Newydd Emlyn, er fod y wlad ar ei thlysaf yng Nghenarth a'r môr ar ei hawddgaraf yn Aberteifi, ehed fy meddwl yn ol at blu'r gweunydd yn y gors a ofnwn gynt. Hwy yw plant pur y mynyddoedd, lle mae'r awel iach yn deffro'r meddwl, ac yn rhoi hoen yn lle suo i gwsg.

Yr wyf yn cofio imi, pan yn fachgen, orfod mynd heibio mynwent yn y wlad tua hanner nos ar ddiwedd taith hir. Yr oedd bachgen hŷn na mi gyda mi, a gofynnais iddo a oedd arno ofn. "Nac oes," oedd yr ateb syml, "y mae mam yn gorwedd yna." Pan af finnau heibio i Gors goch glan Teifi eto, ni theimlaf fy ngwaed yn oeri. Gwn fod yno'n huno filoedd ar filoedd o blu'r gweunydd, ac y deffroant pan ddaw pob haf, ac y bydd y gors yn llety mwyn a chynnes i angylion.